Diploma AAT mewn Cyfrifyddu

Dydd Llun 18 Mai 2020

AAT accountancy thumbnail

Os ydych eisiau symud ymlaen i yrfa mewn cyllid, neu ddod yn gyfrifydd hunangyflogedig, mae Diploma lefel 4 AAT mewn Cyfrifyddu yn fan cychwyn delfrydol. Mae cymhwyster cyfrifyddu AAT yn rhoi sgiliau cyllid a chyfrifyddu ymarferol a gydnabyddir yn rhyngwladol i chi, a sgiliau cyfrifyddu a all agor drysau i nifer o ddiwydiannau ledled y byd. Os byddwch yn cwblhau’r diploma’n llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud cais am statws Proffesiynol MAAT.

Mae’r diploma yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau megis: treth fusnes, treth bersonol, systemau a rheolyddion cyfrifyddu. Mae gofynion mynediad yn cynnwys cymhwyster Cyfrifyddu lefel 3 AAT, a chynhelir yr asesiad ar ffurf prawf ar-lein. Os oes gennych chi neu rywun rydych yn ei adnabod ddiddordeb, gallwch gysylltu â Choleg y Cymoedd ar: 01443 663128 neu e-bost: bis@cymoedd.ac.uk

 

<< Yn ôl at Newyddion