Amdanom ni

Cysylltu ag eraill yn Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu cyfleoedd i bobl fusnes leol gyfarfod cwsmeriaid a chyflenwyr newydd, dysgu sgiliau newydd, rhannu arferion gorau a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ffactorau gwleidyddol, deddfwriaethol ac economaidd a allai effeithio ar eu busnes. Yn bwysicach na dim, mae’r fforwm hefyd yn gyfle i bobl fusnes leisio eu barn.

Tyfu eich busnes

Mae Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu gweithdai sgiliau busnes mewn pynciau fel marchnata, cyfryngau cymdeithasol, codi cyllid a rheoli adnoddau dynol. Anogir pobl i rwydweithio gyda’r bobl eraill sy’n bresennol, a dysgu oddi wrth y llu o hwyluswyr arbenigol. Mae galw bob amser am ddigwyddiadau rhwydweithio penodol fel ‘Rhwydweithio Cyflym’, felly archebwch eich lle nawr!

Gwobrau Gwych Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Gwobrau Blynyddol Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn uchafbwynt pwysig ar galendr busnes Pen-y-bont ar Ogwr. Maent yn eu chweched blwyddyn bellach ac wedi mynd o nerth i nerth bob blwyddyn. Mae 2018 yn addo bod yr orau eto. Yn dathlu hufen cymuned fusnes Pen-y-bont ar Ogwr, mae’r gwobrau’n ddigwyddiad hollbwysig i unrhyw fusnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ymhlith y cyfleoedd yn y digwyddiad mae enwebu eich busnes ar gyfer dewis o naw o gategorïau gwahanol, dewis o becynnau nawdd, byrddau o ddeg a llefydd bwyta unigol.

Dweud wrth ffrind!

Mae Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio’n galed iawn i gyfleu ei neges, drwy e-byst, hysbysebu, cyfryngau cymdeithasol a sylw yn y wasg. Y ffordd orau o gyrraedd cymuned fusnes Pen-y-bont ar Ogwr yw drwy argymhelliad personol y bobl fusnes sy’n ei gefnogi. Po fwyaf o aelodau sydd gan y fforwm, y mwyaf y bydd cymuned fusnes Pen-y-bont ar Ogwr yn ffynnu. Gallwch chi chwarae rhan bwysig yn llwyddiant Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr drwy argymhellion ar dafod lleferydd, a rhannu, hoffi, cyflwyno sylwadau ac anfon negeseuon e-bost ymlaen. Mae Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn wasanaeth dielw, am ddim i ymuno ag ef, sydd wedi’i greu er mwyn cefnogi busnesau Pen-y-bont ar Ogwr.