Cyflwyniad i’r Cadeirydd

Ian Jessop

Mae Ian Jessopp yn Berchennog a Rheolwr Gyfarwyddwr kksolutions, sef  gwasanaeth dylunio ac argraffu llawn sydd â phencadlys a phrif uned gynhyrchu ar Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, a swyddfa ranbarthol a ffatri yn Stockport.

Mae gan Ian brofiad sylweddol a ddatblygwyd dros bron i 30 o flynyddoedd yn y diwydiant argraffu a diwydiannau cysylltiedig. Cyn iddo brynu a datblygu ei fusnes ei hun, ef oedd Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Linney, sef un o fusnesau argraffu a dosbarthu mwyaf blaenllaw’r DU. Cyn hynny, roedd yn un o’r cyfarwyddwyr a sefydlodd MRM Promotional Services – un o arweinwyr y farchnad ym maes ymgyrchoedd hyrwyddo.

Meddai Ian, gan siarad am ei swyddogaeth newydd: “Rwyf wedi bod yn gefnogwr cryf i Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr ers iddo gael ei sefydlu yn 2008. Ers hynny, rwyf wedi gweld o ddifri’r buddiannau o fod yn rhan o rwydwaith busnes cadarn yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr a’r cyffiniau. Rwy’n teimlo ei bod yn fraint arbennig i mi gael bod yn y swydd newydd hon, ac rwy’n edrych ymlaen at allu cefnogi a datblygu llwyddiant parhaus y Fforwm.”