Hygyrchedd

Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch i gymaint o bobl â phosib, heb ystyried technoleg neu allu.

Nodweddion hygyrchedd

Cymraeg syml

Rydym yn ceisio ysgrifennu Cymraeg syml ac osgoi jargon os yw hynny’n bosib. Os nad ydych yn deall rhywbeth, cofiwch roi gwybod i ni.

Strwythurau penawdau

Mae’r safle’n defnyddio strwythurau penawdau syml a ddylai ei gwneud yn haws llywio ynddo, yn enwedig i bobl â darllenwyr sgrin.

Safonau gwe

Rydym yn gwneud ein gorau i gydymffurfio â safonau cod fel y rhai perthnasol i CSS a HTML, a chanllawiau W3C WAI (Dolen allanol – Yn agor mewn tab neu ffenest newydd).

Dolenni

I hysbysu defnyddwyr darllenwyr sgrin, ar hyn o bryd rydym yn ychwanegu eiconau at ein holl ddolenni at ddogfennau sy’n agor mewn ffenest newydd neu at wefannau eraill. Mae gan yr eicon gynnwys cudd hefyd ar gyfer darllenwyr sgrin sy’n nodi bod y dolenni’n agor mewn ffenestri newydd ac a ydynt yn cysylltu â gwahanol wefannau.

Ffurflenni

Mae’r ffurflenni wedi’u hymgorffori sy’n cael eu defnyddio ar y wefan hon yn gwbl hygyrch i ddarllenwyr sgrin.

Dogfennau

Dylai’r dogfennau newydd rydym yn eu cyhoeddi fod yn gwbl hygyrch.

Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw rhai o’n dogfennau hŷn yn hygyrch. Er enghraifft, gyda rhai ohonynt:

  • nid ydynt wedi’u marcio mewn ffordd sy’n galluogi i ddefnyddwyr darllenydd sgrin eu deall
  • nid ydynt wedi’u tagio’n briodol, er enghraifft, nid ydynt yn cynnwys penawdau priodol
  • nid ydynt wedi’u hysgrifennu mewn Cymraeg syml

Mae rhai o’r rhain yn ddogfennau hanesyddol ac nid ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Mae’r mathau yma o ddogfennau wedi’u heithrio o’r rheoliadau ac nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i’w gwneud yn hygyrch. Fodd bynnag, mae dogfennau mwy diweddar yn cael eu diweddaru i’w gwneud mor hygyrch â phosib.

Weithiau nid oes posib gwneud hyn. Os oes arnoch chi angen dogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i’w darparu.

Mae’r canlynol yn berthnasol i gyfrifiaduron pen desg a gliniaduron, ond nid dyfeisiau tabled a ffonau symudol.

Dogfennau PDF: bydd y rhan fwyaf o gyfrifiaduron yn dangos y rhain yn awtomatig. Os oes arnoch chi angen y feddalwedd, gallwch lawrlwytho’r darllenydd PDF am ddim o wefan Adobe (Dolen allanol – Yn agor mewn tab neu ffenest newydd).

Cynnwys amlgyfrwng

Mae fideos ein gwefan wedi’u hymgorffori drwy wefan YouTube. Oherwydd hyn, efallai na fydd rhai nodweddion hygyrchedd ar gael, sydd y tu hwnt i’n rheolaeth ni. Ewch i dudalennau cymorth YouTube (Dolen allanol – Yn agor mewn tab neu ffenest newydd) am wybodaeth am wylio fideos gyda darllenwyr sgrin.

Cynnwys wedi’i ymgorffori

Yn ein gwefan mae cynnwys wedi’i ymgorffori o wefannau eraill. Gall hyn leihau hygyrchedd wrth geisio cael mynediad at gynnwys yn uniongyrchol drwy fysellfyrddau neu dechnoleg darllen sgrin. Os yw’r broblem hon yn effeithio arnoch chi, cysylltwch â ni fel ein bod yn gallu helpu os yw hynny’n bosib, a datrys unrhyw broblemau.