Mae Magenta Financial Planning yn chwilio am fenywod busnes ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i fod yn westeion ar bodlediad newydd y cwmni.
Caiff y podlediad, sef Women Talking Money, ei ddarlledu bob wythnos. Mae’n canolbwyntio ar ddathlu profiadau amrywiol menywod yn y byd busnes ac mae hefyd yn herio normau cymdeithasol yn ymwneud ag arian.
Mae pob pennod yn cynnwys gwestai a all gynnig amrywiaeth eang o wybodaeth a safbwyntiau. Gretchen Betts, Rheolwr Gyfarwyddwr Magenta, yw’r prif gyflwynydd.
Gallwch wrando ar y podlediad ar Spotify ac Apple Podcasts.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn westai ar y podlediad, cofiwch gysylltu â’r tîm.
Dilynwch ni