Apeliadau i gwmnïau am gyfarpar diogelu personol

Dydd Iau 26 Mawrth 2020

Mae apeliadau yn cael eu gwneud i gwmnïau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am gyfarpar diogelu personol (PPE) diangen i helpu staff gofal cymdeithasol ac ysgolion ddarparu gofal plant brys yn ystod pandemig y coronafeirws.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwneud yr apêl am PPE sy’n cynnwys masgiau, menig glas nitril a ffedogau plastig.

Dywedodd Yr Arweinydd, Y Cynghorydd Huw David: “Mae diffyg cyfarpar diogelu personol ar draws y byd, ac er ein bod ni’n dosbarthu’r rhai a gyrhaeddodd yma yr wythnos ddiwethaf, byddant yn rhedeg allan mewn dim.

“Mae ein staff ar y rheng flaen, yn gofalu am bobl yn eu cartrefi ac mewn cartrefi preswyl, yn ogystal â’n gwirfoddolwyr yn yr hybiau gofal plant brys sydd wedi eu sefydlu i ofalu am blant gweithwyr allweddol.

“Rydym wir angen diogelu ein staff rhag bod yn sâl.

“Mae llawer o gwmnïau wedi rhoi’r gorau i gynhyrchu yn ystod y dyddiau diwethaf, ac rydym yn apelio i’r rhai all ein helpu ni i gyflenwi PPE gysylltu â ni wrth i ni frwydro yn erbyn y feirws peryglus anweledig hwn.”

Gofynnir i unrhyw un all helpu i gysylltu â’r cyngor drwy e-bostio Covid19@bridgend.gov.uk

 

<< Yn ôl at Newyddion