Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn lansio gweminarau ar-lein am ddim

Dydd Mawrth 9 Mehefin 2020

BBF Webinar thumbnail

Mae Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr ar fin lansio rhaglen gweminar ar-lein am ddim ar gyfer aelodau’r fforwm yn benodol, lle bydd cyfres o siaradwyr arbenigol o amrywiaeth o gefndiroedd busnes gwahanol yn trafod nifer helaeth o destunau sydd o ddiddordeb i bob busnes.

Bydd y cyntaf ohonynt yn ymwneud ag Ystyriaethau wrth ddychwelyd i’r gwaith (COVID-19), a fydd yn  cynnwys meysydd fel: opsiynau ar gyfer cyflogwyr ar ôl ffyrlo, strategaethau ymadael ar ôl ffyrlo a materion i’w hystyried wrth i weithwyr ddychwelyd i’r gwaith.

Sarah Alford, sy’n bennaeth ar gyfraith cyflogaeth yn Berry Smith Lawyers, fydd yn cyflwyno’r weminar ar-lein gyntaf yn y gyfres. Mae gan Sarah brofiad sylweddol o bob math o faterion sy’n ymwneud â chyfraith adnoddau dynol a chyflogaeth, a chyfeirir ati yng nghyfarwyddiaduron y Legal 500 a Chambers and Partners. Mae ei chleientiaid yn amrywio o gwmnïau cyfyngedig cyhoeddus i sefydliadau’r sector cyhoeddus. Mae Sarah hefyd yn aelod o’r Employment Lawyers Association, ac mae’n siarad, ac yn rhoi hyfforddiant yn rheolaidd ar amrediad o destunau sy’n ymwneud â chyfraith cyflogaeth.

Bydd y weminar gychwynnol hon yn digwydd ddydd Iau 25 Mehefin rhwng 2pm a 2.30pm. Bydd yn rhaid i fusnesau ac unigolion sydd am fynychu gadw lle ymlaen llaw drwy anfon e-bost at: business@bridgend.gov.uk. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mary Pope, Cydgysylltydd Digwyddiadau a Rhwydweithiau Busnes ar 01656 815320 neu anfonwch e-bost at: mary.pope@bridgend.gov.uk.

 Ceir mwy o wybodaeth am weminarau ar-lein y dyfodol ar wefan Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn www.bridgendbusinessforum.co.uk, neu ar Twitter: @BridgendForum a Facebook: Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr

<< Yn ôl at Newyddion