Busnesau eisoes yn elwa ar becyn cymorth ailddechrau

Dydd Iau 4 Mehefin 2020

Mae busnesau manwerthu lleol eisoes wedi bod yn manteisio ar y pecyn cymorth ailddechrau newydd sy’n cael ei gynnig gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae mwy na 150 o fusnesau wedi holi’n barod ynghylch y sesiynau hyfforddiant ar-lein sydd yn rhad ac am ddim i godi ymwybyddiaeth o’r coronafeirws COVID-19. Mae’r hyfforddiant wedi’i gynllunio er mwyn cynorthwyo busnesau i gymryd y mesurau angenrheidiol i groesawu cwsmeriaid yn ôl i’w safle mewn ffordd sy’n ddiogel.

Mae’r cymryd oddeutu tair awr i gwblhau’r cwrs a gellir ei wneud gartref gan ddefnyddio offer personol yr hyfforddai. Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant yn llwyddiannus, rhoddir sticer i’r busnes i’w arddangos ar ei safle er mwyn hysbysu cwsmeriaid ei fod wedi derbyn hyfforddiant llawn o ran yr agweddau diogelwch ar atal lledaeniad coronafeirws COVID-19 i staff a chwsmeriaid.

Dywedodd Simon James o Oxford House Menswear, sydd wedi cymryd rhan yn y sesiwn hyfforddi ar-lein am ddim yn barod: “Rwy’n bendant yn teimlo y byddai’r hyfforddiant hwn yn rhoi mwy o hyder i gwsmeriaid ddychwelyd i’n siop. Rwy’n credu bydd manwerthwyr eraill yn colli allan trwy beidio â manteisio ar y cyfle hwn. Roedd y cwrs yn cynnig llawer o wybodaeth a chafodd pawb gyfle i ofyn cwestiynau oedd yn benodol i’w busnesau.”

Dywedodd Lee Lloyd-Cook, o Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau, a wnaeth hefyd gofrestru â sesiwn ar-lein yn ddiweddar:  “Byddwn yn annog pawb arall i wneud y cwrs hwn. Mae’n cynnig llawer o wybodaeth ac mae’n help mawr o ran y sefyllfa a’r argyfwng rydym yn ei wynebu ar hyn o bryd.”

Fel rhan ychwanegol o’r pecyn ailddechrau hwn, cynigir gard rhag tisian yn rhad ac am ddim i fusnesau i ddiogelu eu hunain a chwsmeriaid unwaith y bydd eu busnesau’n gwbl weithredol.

Mae’r gardiau rhag tisian yn cael eu dosbarthu gan staff y cyngor o nifer o bwyntiau casglu a sefydlwyd ar draws y fwrdeistref sirol o ddydd Llun 8 Mehefin.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David: “Rydym yn falch iawn bod cymaint o fusnesau lleol wedi ymgysylltu â ni yn barod ynghylch yr hyfforddiant hanfodol hwn. Rydym yn gwybod pa mor awyddus yw’r mentrau i ailddechrau cyn gynted ag y bo modd.

“Ein blaenoriaeth fel cyngor yw cefnogi busnesau i wneud hyn, a dyna pam rydym wedi datblygu’r pecyn cymorth unigryw hwn, er mwyn sicrhau bod busnesau lleol yn gallu helpu i ddarparu tawelwch meddwl i’w staff a’u cwsmeriaid. Mae’r gardiau rhag tisian hefyd yn pwysleisio ymrwymiad busnesau i gadw eu hunain a’u cwsmeriaid yn ddiogel.

“Byddem yn annog unrhyw fusnes sy’n awyddus i ailagor i archebu lle yn y sesiwn hyfforddi ar-lein a chwblhau’r cwrs, a chofrestru hefyd am gard rhag tisian rhad ac am ddim gan ei fod yn dangos i’ch cwsmeriaid eich bod yn cymryd y peth o ddifrif o ran atal yr haint rhag lledaenu.”

Mae’r hyfforddiant ymwybyddiaeth COVID-19 wedi’i anelu at berchnogion busnes, rheolwyr a staff allweddol eraill.

I archebu lle ar y sesiwn hyfforddiant neu i ofyn am gard rhag tisian, ffoniwch Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ar: 01656 643428 neu e-bostiwch: employability@bridgend.gov.uk

<< Yn ôl at Newyddion