Businesses encourage people to shop safe – shop local!

Dydd Llun 6 Gorffennaf 2020

Anturio Gifts in Maesteg Shop Safe stickers

Gyda siopau’n ailagor ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gall preswylwyr gadw llygad allan am sticeri ffenestr a thystysgrifau sy’n dangos bod busnesau wedi cwblhau hyfforddiant ar-lein am ddim ar sut i gadw cwsmeriaid yn ddiogel rhag dod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Mae llawer o fusnesau wedi cwblhau’r hyfforddiant ailgychwyn a rhagwelir y bydd dros 300 wedi cael yr hyfforddiant dros yr wythnosau i ddod. Mae’r hyfforddiant ar-lein yn cwmpasu materion megis sut i gadw pellter cymdeithasol ar y safle, sut i newid cynllun siop, sut i gynnal gweithdrefnau hylendid dwylo, sut i annog cwsmeriaid i ddilyn yr holl ofynion iechyd a diogelwch, a mwy.

Gwnaeth busnesau a gymerodd ran hefyd dderbyn sgriniau ‘gard rhag tisian’, y gellir eu defnyddio o amgylch tiliau ac ar gownteri i gyfyngu ymhellach ar y posibilrwydd o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Mae llawer o siopau bellach yn annog cwsmeriaid i ymweld, ac yn hysbysebu eu bod ar agor ar gyfer busnes unwaith eto drwy bostio ffotograffau o’u tystysgrifau, sticeri ffenestr a gardiau rhag tisian ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r sloganau #siopanlleol, #siopanddiogel, #shoplocal, #shopsafe.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David: “Dim ond ychydig enghreifftiau yw’r hyfforddiant ailgychwyn a’r ‘gardiau rhag tisian’ o’r hyn rydym yn ceisio ei wneud i helpu busnesau lleol i ymateb i heriau pandemig y coronafeirws.

“Gobeithiaf y bydd pobl yn cadw llygad allan am y sticeri ffenestr a’r tystysgrifau, a theimlo’n hyderus y gallant siopa’n ddiogel gan wybod bod y busnes wedi cwblhau’r hyfforddiant ac yn barod i’w roi ar waith ar ei safle.”

Cynhaliwyd 20 o gyrsiau hyfforddi hyd yn hyn ac mae rhai lleoedd ar gael o hyd ar y cyrsiau sy’n cael eu cynnal hyd at 14 Gorffennaf.

Fel rhan o’r cymorth, mae adnodd ar-lein newydd hefyd wedi’i lanlwytho ar wefan y cyngor.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 643428 neu anfonwch e-bost at employability@bridgend.gov.uk

 

<< Yn ôl at Newyddion