Ceisiadau ar gyfer y Gwobrau Arloesi Cynhwysol ar agor

Dydd Gwener 21 Hydref 2022

Mae’r Gwobrau Arloesi Cynhwysol bellach wedi agor ar gyfer ceisiadau.

Bydd y seremoni wobrwyo, sy’n cael ei chynnal gan Innovate UK, yn helpu i fuddsoddi hyd at £2.5 miliwn y flwyddyn ar gyfer y tair blynedd nesaf i ddathlu cynhwysiant mewn arloesi. Bydd 50 o wobrau’n cael eu dyfarnu i fentrau micro, bach neu ganolig eu maint ledled y DU i gefnogi amrywiaeth mewn busnes.

Er mwyn bod yn gymwys, mae’n rhaid i’ch prosiect fodloni’r canlynol:

  • gwneud cais am gyfanswm o £50,000 o arian grant
  • dechrau ar 1 Ebrill 2023
  • dod i ben ar 31 Mawrth 2024
  • para am 12 mis
  • gwneud ei holl waith prosiect yn y DU
  • bwriadu manteisio ar y canlyniadau o’r DU, neu yn y DU

Bydd yr enillwyr yn derbyn grant o £50,000 yr un ar gyfer ehangu gwaith arloesi cynhwysol presennol, neu ddatblygu gwaith arloesi cynhwysol newydd.

Bydd y ceisiadau’n cau ddydd Mercher 9 Tachwedd 2022, gyda’r enillwyr yn cael eu hysbysu ym mis Ionawr 2023.

Dysgu mwy a gwneud cais.

<< Yn ôl at Newyddion