Gwybodaeth ynglyn ag olrhain cysylltiadau ar gyfer cyflogwyr

Dydd Mawrth 9 Mehefin 2020

Olrhain Lledaeniad y Coronafeirws

Dosbarthwyd canllawiau pwysig i bob cyflogwr a’r hunangyflogedig yng Nghymru ynghylch eu cyfrifoldebau i helpu i gyflawni’r strategaeth Profi Olrhain Diogelu.

Nod Profi Olrhain Diogelu, a lansiwyd yng Nghymru ddydd Llun, 1 Mehefin, yw arafu lledaeniad COVID-19, gan ddiogelu’r system gofal iechyd ac achub bywydau.

Mae canllawiau Profi Olrhain Diogelu Llywodraeth Cymru (External link – Opens in a new tab or window) yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â’r canlynol:

  • sut y gofynnir i weithwyr hysbysu eu cyflogwr os gofynnir iddynt hunanynysu fel rhan o’r broses olrhain cysylltiadau
  • pa gefnogaeth sydd ar gael os ceir achosion COVID-19 mewn gweithle
  • y cyfnod byrraf a hiraf y gellir gofyn i weithiwr hunanynysu
  • pa gymorth y dylai cyflogwyr ei ddarparu ar gyfer eu gweithwyr os gofynnir iddynt hunanynysu, gan gynnwys manylion ynghylch tâl salwch a lwfans cymorth cyflogaeth

Darperir rhagor o wybodaeth am y canlynol:

  • pryd y dylai gweithwyr archebu prawf coronafeirws a sut y gallant gael mynediad at un
  • sut y gofynnir i weithwyr hysbysu eu cyflogwr os ydynt yn cael canlyniad positif i brawf y coronafeirws
  • beth mae olrhain cysylltiadau yn ei olygu a diffiniad cysylltiad
  • am ba mor hir y bydd pobl yn cael eu cynghori i hunanynysu os ydynt wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif i brawf y coronafeirws

Ar gyfer yr hunangyflogedig, y cyngor gan Lywodraeth Cymru yw parhau i weithio gartref os yw hynny’n bosibl. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid gweithredu canllawiau Diogelu Cymru yn y gwaith (External link – Opens in a new tab or window) ar gyfer yr amgylchedd gwaith.

Mae Profi Olrhain Diogelu yn cael ei gyflawni trwy wasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru, sy’n cynnwys byrddau iechyd lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, awdurdodau lleol a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.

O fewn ein rhanbarth, mae hyn yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Mae’r system yn gweithredu trwy wneud y canlynol:

  • profi’r bobl hynny sydd â symptomau coronafeirws, gan ofyn iddynt ynysu wrth deulu ehangach, ffrindiau, cydweithwyr a’u cymuned wrth gael prawf ac aros am ganlyniad
  • olrhain yr unigolion hynny sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â’r unigolyn sydd wedi cael canlyniad positif i brawf y coronafeirws, gan ei wneud yn ofynnol iddynt gymryd rhagofalon a hunanynysu (am 14 diwrnod)
  • darparu cyngor ac arweiniad, yn enwedig lle mae’r unigolyn sydd wedi cael canlyniad positif neu ei gysylltiadau yn agored i niwed neu mewn mwy o berygl
  • os yw’r unigolyn yn cael canlyniad negyddol i’r prawf ac nad yw’r symptomau o ganlyniad i’r coronafeirws, sicrhau y gall unigolion fynd yn ôl i’r gwaith a’u harferion arferol cyn gynted â phosibl

Huw David, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae’r gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu yn un o’r ymyriadau iechyd chyoeddus mwyaf mewn cenhedlaeth – mae wedi cael ei greu gyda’r unig ddiben o atal y coronafeirws rhag lledaenu, ac rydym yn annog pob busnes i ymgysylltu’n llawn a’r broses.

“Mae gan bob busnes yn y rhanbarth gyfrifoldeb i sicrhau ei fod yn cadw’n gyfredol a’r canllawiau diweddaraf a bod ei weithwyr yn cael eu hysbysu am y prosesau perthnasol sy’n ymwneud a phrofi ac olrhain cysylltiadau. Er mwyn help i gadw gweithwyr a chwsmeriaid yn ddiogel, mae angen i gwmniau hefyd sicrhau eu bod yn cymryd pob mesur rhesymol i lynu at y gyfraith o ran cadw pellter cymdeithasol yn y gweithle.

“Maw hwn yn gyfnod heriol ac anodd iawn ac mae angen help ein holl breswylwyr a busnesau arnom os ydym am dorri’r broses o drosglwyddo’r coronafeirws, gan alluogi pobl i ddechrau bwrw ymlaen a’u bywydau, gweld eu hanwyliaid, ac ailadeiladu eu bywoliaeth.”

Dolenni pwysig ar gyfer cyflogwyr:

Os yw’r coronafeirws wedi cael effaith andwyol ar eich busnes, gallwch fod yn gymwys am grant trwy’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig.

<< Yn ôl at Newyddion