Y cyngor yn cymeradwyo cynllun ehangu melin bapur gwerth £100 miliwn

Dydd Mawrth 9 Mehefin 2020

3D impression of the paper mills

Mae mwy na 70 o swyddi crefftus ar fin cael eu creu ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl i bwyllgor Rheoli Datblygiad y cyngor bleidleisio’n unfrydol o blaid cymeradwyo cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer gwaith ehangu yn Bridgend Paper Mills sy’n werth £100 miliwn.

Wedi’i leoli ger Maesteg, ac ychydig oddi ar yr A4063 yn Llangynwyd, cafodd cynlluniau’r safle eu cyflwyno gan WEPA UK, a byddant yn helpu i ddiogelu 267 o swyddi presennol yn ogystal â chreu 100 o rai ychwanegol yn ystod y cam adeiladu newydd.

Fel rhan o’r broses gymeradwyo, mae’r cwmni hefyd wedi cytuno i wneud cyfraniad o £80,000 tuag at fesurau gostegu traffig newydd ar yr A4063 yng Nghoytrahen yn ogystal â llwybr teithio llesol a gynllunnir ar gyfer Cwm Llynfi.

Bydd ehangu’r safle 25 hectar yn golygu adeiladu ail linell gynhyrchu papur sidan hylendid ynghyd ag ardaloedd storio mwydion a thrin byrnau, warws â chilfachau llwytho uchel ar gyfer hyd at 35,000 o baledau, ardal ddosbarthu a mwy.

Bydd yn galluogi’r cwmni i ehangu ei fusnes a chynhyrchu hyd at 115,000 o dunelli’r flwyddyn, gan ddarparu cyflogaeth a buddsoddiad o’r newydd i’r ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau: “Gyda phandemig y coronafeirws yn parhau, ni allai’r newyddion hyn fod wedi dod ar adeg well. Mae’n dangos bod hyder aruthrol yn y gweithlu lleol ac economi’r fwrdeistref sirol, a bydd yn sicr yn arwyddocaol iawn ar gyfer y dyfodol.

“Mae’r gwaith ehangu nid yn unig yn diogelu bron 270 o swyddi, ond yn creu 74 o rolau newydd yn ogystal â chreu tua 100 o rai ychwanegol ar gyfer gwaith adeiladu’r cyfleusterau newydd ar y safle.

“Mae Bridgend Paper Mills yn un o gyflogwyr hynaf a mwyaf hirsefydlog y fwrdeistref sirol, ac mae’r buddsoddiad sylweddol hwn yn dangos bod y berthynas yn siŵr o barhau am flynyddoedd lawer.”

<< Yn ôl at Newyddion