Busnesau bach a’r hunangyflogedig
Cyngor ac arweiniad ar leihau’r risgiau i chi a’ch busnes o achos y feirws COVID-19.
Oherwydd natur newidiol-gyflym achosion COVID-19, gall gwybodaeth a chyngor gan y Llywodraeth newid yn gyflym. I gael y wybodaeth ddiweddaraf gan y Llywodraeth ynghylch COVID-19 a’r mesurau y mae’r Llywodraeth, a’r Llywodraethau Datganoledig, yn eu cymryd, ewch i wefan Llywodraeth y DU a gwefan Llywodraeth Cymru.
Arweiniad ar gyfer busnesau bach
Byddwch yn ymwybodol o COVID-19: arweiniad ar gyfer cyflogwyr a busnesau gan y Llywodraeth, a’i ddilyn. Bydd yr arweiniad hwn yn cynorthwyo cyflogwyr a busnesau wrth gynnig cyngor i staff ar:
Cyngor presennol y Llywodraeth yw bod y risg cyffredinol i’r cyhoedd yn y DU yn parhau i fod yn gymedrol.
Mae’r risg cyffredinol i weithwyr ddal Covid-19 drwy fynychu eu gweithle yn y DU yn isel iawn. Fodd bynnag, mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) wedi llunio arweiniad i’ch helpu i reoli eich staff a’ch cyfrifoldebau chi iddynt ar hyn o bryd.
Cefnogaeth cyllideb 2020 ar gyfer y rheiny sydd wedi eu heffeithio o achos COVID-19
Mewn ymateb i’r achos byd-eang o Covid-19, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno llu o fesurau yn y gyllideb i gefnogi busnesau sy’n profi cynnydd mewn costau neu amhariadau ariannol. Mae’r mesurau yn cynnwys:
Dolenni defnyddiol
Mae arweiniad pellach yn ymwneud â Choronafeirws i’w weld yn:
Dilynwch ni