Mae Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Benthyciad Busnes £100m Cymru i gefnogi busnesau a effeithiwyd arnynt gan yr achosion o Cofid-19.
Bydd y Cynllun ar gael gan Fanc Datblygu Cymru am gyfnod cyfyngedig. Y bwriad yw darparu cefnogaeth i fusnesau sy’n profi anawsterau llif arian o ganlyniad i’r pandemig.
Bydd y cynllun benthyciadau yn gweithio ochr yn ochr â’r Cynllun Ymyrryd ar Fusnes Coronafirws ar draws y DU, cynigion cymorth eraill Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan ddarparu opsiynau mwy hanfodol i fusnesau Cymru.
Mae benthyciadau rhwng £5,000 a £250,000 ar gael i fusnesau sydd wedi bod yn masnachu am fwy na 2 flynedd lle gallant ddangos eu bod wedi gallu gwasanaethu’r lefel honno o ddyled cyn y coronafirws.
Gellir gweld manylion y gronfa, cymhwysedd a’r broses ymgeisio ar wefan Banc Datblygu Cymru.
Dilynwch ni