Cronfeydd busnes newydd ar gael ar gyfer arloesi, busnesau newydd ac addasiadau i eiddo

Dydd Iau 28 Ionawr 2021

Bydd cyllid newydd drwy Dasglu Economaidd Sir Pen-y-bont ar Ogwr ar gael i fusnesau Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y misoedd nesaf.

Bydd yr arian yn cefnogi busnesau newydd, addasiadau i eiddo busnes a chynigion arloesol sy’n helpu i gefnogi’r economi yn ystod pandemig y coronafeirws a thu hwnt.

Yn eu plith mae:

  • Cyllid Dechrau Busnes sy’n darparu grantiau o rhwng £250 a £4,000 i fusnesau newydd.  I ddechrau bydd £150,000 ar gael yn 2021/2022.
  • Cronfa Arloesi Economi Leol sy’n cynnig hyd at £50,000 i brosiectau arloesol sy’n helpu i gefnogi’r economi yn ystod pandemig y coronafeirws a thu hwnt.  I ddechrau bydd £200,000 ar gael yn 2021/2022.
  • Cronfa Gwella Eiddo sy’n darparu grantiau o hyd at £10,000 ar gyfer addasiadau i adeiladau busnes sy’n ymateb i gyfyngiadau sy’n deillio o bandemig y coronafeirws ac yn datblygu gwytnwch yn y dyfodol.  I ddechrau bydd £350,000 ar gael ar gyfer y Gronfa hon yn 2021/2022.

Nod y cyllid Dechrau Busnes yw rhoi cymorth ariannol i ficrofusnesau newydd neu fusnesau sy’n bodoli eisoes – busnes sydd â llai na deg o weithwyr a chyfanswm trosiant neu fantolen o lai na €2 miliwn.  Gall y gronfa ddarparu hyd at 50 y cant o gostau cymwys y prosiect gyda’r isafswm grant o £250 ac uchafswm y grant sydd ar gael yw £4,000.

Yn y cyfamser bydd Cronfa Arloesi’r Economi Leol yn ceisio cynigion sy’n cynnig ymatebion newydd a chreadigol i’r heriau sy’n wynebu’r economi leol ar hyn o bryd.

A bydd y Gronfa Gwella Eiddo yn darparu cyllid o hyd at 80 y cant neu uchafswm gwerth o £10,000 o gyfanswm y costau gwella cymwys, gydag o leiaf 20 y cant o gyfanswm costau’r prosiect yn cael ei dalu gan yr ymgeisydd.

Dywedodd Charles Smith, aelod cabinet dros adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae hwn yn gyfnod heriol iawn i fusnesau.  Er bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi ymateb gyda chymorth ariannol, rydym ni, ynghyd â’n partneriaid drwy’r Tasglu Economaidd, wedi gwrando ar bryderon ac wedi cyflwyno sawl cronfa gymorth ychwanegol i gynorthwyo busnesau lleol.

“Rydym yn sicrhau bod adnoddau ar gael i’r rhai sy’n ceisio dechrau eu busnes eu hunain ac rydym yn galw ar ein busnesau lleol sydd â chynhyrchion a gwasanaethau arloesol a fydd yn helpu ein cymunedau a’r sector cyhoeddus i ymaddasu i effaith barhaus y pandemig. Rydym hefyd yn rhoi cymorth i fusnesau y mae angen addasiadau penodol ar eu heiddo i ymateb i sefyllfaoedd cyfredol yn ogystal â datblygu gwytnwch yn y dyfodol.

“Rydym wedi gwrando ar amrywiaeth o faterion y mae busnesau wedi’u codi ac wedi edrych yn fanwl ar yr hyn y gallwn ei wneud gyda’r adnoddau sydd ar gael.  Bydd diddordeb yn y cynlluniau hyn yn cael ei fonitro gyda’r potensial i ddarparu cyllid pellach yn ôl yr angen.”

Gall busnesau sy’n dymuno mynegi diddordeb yn y cronfeydd hyn wneud hynny drwy wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o 12pm ar 5 Chwefror. Bydd ceisiadau wedyn yn mynd yn fyw ar wefan yr awdurdod lleol ar 26 Chwefror gyda’r holl arian ar gael ar gyfer gweithgarwch ategol o 1 Ebrill 2021.

Sefydlwyd y Tasglu Economaidd y llynedd i helpu’r economi leol i wella ar ôl y pandemig a sicrhau budd hirdymor. Mae’n cynnwys arweinwyr busnes, sefydliadau sector cyhoeddus lleol, Bargen Ddinesig Prif-ddinas-Ranbarth-Caerdydd, cynrychiolwyr o sectorau busnes a chyrff masnach, a rhanddeiliaid allweddol eraill.

<< Yn ôl at Newyddion