Mae Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn gofyn am eich mewnbwn er mwyn sicrhau ei fod yn parhau’n berthnasol i anghenion ei aelodau yn y dyfodol. Mae arolwg ar-lein, lle all aelodau ddweud eu dweud, bellach yn fyw.
Bydd darganfyddiadau’r ymchwil hon o gymorth i ddeall barn cymuned fusnes Pen-y-bont ar Ogwr, yn cefnogi adolygiad gweithgareddau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr ac yn helpu i lywio dyfodol Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr fel corff cynrychiadol perthnasol ar gyfer ein cymuned fusnes.
Mae’r arolwg ar gael i’w chwblhau yn Gymraeg a Saesneg.
Dysgwch fwy a lleisiwch eich barn.
Dilynwch ni