Cyllid pellach gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau nawr ar gael

Dydd Gwener 4 Mehefin 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pecyn pellach o gymorth busnes ar gael trwy’r Gronfa Gwydnwch Economaidd (ERF).

Bydd yr ERF yn darparu cyllid ar ffurf grantiau arian parod ar gyfer busnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau a busnesau cadwyn gyflenwi cysylltiedig sydd wedi profi effaith negyddol sylweddol o ganlyniad i gyfyngiadau parhaus Covid-19.

Mae’r cyllid yn cael ei weinyddu mewn dwy ffordd: mae cymorth ar gyfer busnesau gyda throsiant o lai na £85,000 yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol. Bydd y grant ar agor i geisiadau gan fusnesau ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr o heddiw (dydd Mawrth, 1 Mehefin) ac yn cau am 5pm ar 30 Mehefin 2021.

Mae’r grantiau’n amrywio o £2,500 i hyd at £10,000 gyda’r nod o dalu am gostau gweithredu (ac eithrio cyflogau staff) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021.

Bydd penderfyniadau ar gyfer ceisiadau’n cael eu gwneud ar sail barhaus pan fydd y gronfa ar agor gyda’r nod o wneud penderfyniadau o fewn 30 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad cau’r gronfa.

Ar ôl i ymgeiswyr gyflwyno eu cais, byddant yn gweld tudalen ar eu sgrin yn syth, yn cadarnhau bod yr awdurdod lleol wedi derbyn eu cais. Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i dudalen we cymorth busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd cymorth ar gyfer busnesau gyda throsiant o dros £85,000 yn cael ei ddarparu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Mae ceisiadau ar gyfer y grantiau, hyn sy’n amrywio o £2,500 hyd at £25,000 ar agor nawr – byddant yn cau am 5pm ar ddydd Llun 7 Mehefin. I gael y manylion amdanynt, ewch i wefan Llywodraeth Cymru (External link – Opens in a new tab or window).

Yn benodol, bydd yr ERF yn cefnogi busnesau sydd un ai:

  1. a) Yn cael eu gorfodi i aros ar gau gan y cyfyngiadau parhaus rhwng 2 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021
  2. b) Methu agor dan do rhwng 1 Mai 2021 a 17 Mai 2021
  3. c) Lleoliad sy’n arlwyo ar gyfer priodasau a digwyddiadau’n unig gyda chapasiti cyfyngedig rheoliadol o 30 o westai (ond gall ddall rhagor o bobl mewn amgylchiadau arferol)
  4. d) Busnes cadwyn gyflenwi sy’n cynhyrchu 60 y cant neu fwy o’i refeniw gwerthu o fusnesau sy’n disgyn i gategoriau a), b) a/neu c)

Yn ychwanegol, rhaid i fusnesau fod wedi profi effaith negyddol sylweddol drwy leihad mewn trosiant o 60 y cant neu fwy ym mis Mai a Mehefin 2021 o’i gymharu â Mai a Mehefin 2019 a achoswyd yn uniongyrchol gan gyfyngiadau parhaus Covid-19.

Dylai lefelau trosiant fod ar gyfer blwyddyn fasnachu arferol neu amcangyfrifiad os yw’r busnes wedi dechrau ar ôl Mawrth 2020.

Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David: “Rydym yn annog pob busnes sydd wedi’i effeithio gan gyfyngiadau parhaus coronafeirws i wirio ei gymhwysedd ar gyfer y grantiau arian parod hyn nawr ac, os ydynt yn gymwys, i wneud cais. Mae gwefan Busnes Cymru (External link – Opens in a new tab or window) yn dangos cyfres o gwestiynau sy’n help busnesau i benderfynu a ddylent wneud cais ai peidio.

“Mae’n bwysig nodi nad oes taliadau awtomatig yn cael eu gwneud ar gyfer busnesau gyda’r gronfa hon.

“Ar gyfer y busnesau hynny sy’n gymwys gyda throsiant o lai na £85,000, gallwn eich sicrhau y byddwn yn gweithio mor gyflym â phosibl i sicrhau bod ceisiadau’n cael eu prosesu wrth iddynt ein cyrraedd.”

<< Yn ôl at Newyddion