Cynllun gostyngiad ar rent i barhau

Dydd Mawrth 25 Mai 2021

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymestyn ei gynllun gostyngiad ar rent ymhellach ar gyfer masnachwyr marchnad a phreswylwyr unedau diwydiannol bach.

Bydd y gostyngiad o 50 y cant nawr ar waith tan 31 Awst 2021. Mae’n ffurfio rhan o gyfres raddol o gyfraddau rhent rhatach a gafodd eu cyflwyno’n wreiddiol i gefnogi busnesau bach a chanolig wrth iddynt ailagor ar ôl cyfnod clo cyntaf y pandemig.

Wedi derbyn gostyngiad gwreiddiol o 75 y cant a 50 y cant ym mis Medi 2020, y bwriad oedd i fasnachwyr fanteisio ar ostyngiad o 25 y cant ym mis Hydref y llynedd.

Yn hytrach, mae’r cyngor wedi cytuno i ymestyn y gostyngiad o 50 y cant ac i’w adolygu’n rheolaidd drwy gydol gweddill y pandemig.

Dirprwy Arweinydd Hywel Williams:

“Wrth i gyfyngiadau’r pandemig barhau i lacio, mae’n dda gweld Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr ar agor unwaith eto, a bod y gostyngiad ar rent parhaus yn cefnogi masnachwyr wrth iddynt groesawu cwsmeriaid yn ôl.

“Cyn i’r pandemig ddechrau, cafodd y farchnad ei hailwampio, ac mae nawr yn cynnwys toiledau hygyrch newydd i’r cyhoedd a chyfleusterau newid babanod. Mae yna hefyd sgwâr canolog y gellir ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau arbenigol, adloniant teuluol a mannau chwarae i blant pan fydd y pandemig drosodd.

“Mae mesurau ar waith i gadw cwsmeriaid yn ddiogel, yn cynnwys system un ffordd, marciau dau fetr ar y llawr, safleoedd diheintio dwylo a mwy. Cofiwch wisgo gorchudd wyneb pan fyddwch yn ymweld â’r farchnad, oni bai eich bod wedi’ch eithrio.”

<< Yn ôl at Newyddion