Dewch i Gwrdd â’r Prynwr: Cymoedd i’r Arfordir

Dydd Iau 27 Chwefror 2025

Cynhelir digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr y mis nesaf gan Cymoedd i’r Arfordir, gyda chefnogaeth Busnes Cymru.

Gall busnesau lleol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddysgu am gyfleoedd caffael sydd ar y gweill drwy Cymoedd i’r Arfordir, sy’n rheoli dros 6,000 o gartrefi ar draws y fwrdeistref sirol. Mae’r sefydliad yn awyddus i gysylltu gyda busnesau bach a chanolig, yn enwedig busnesau ym myd masnach adeiladu ac atgyweirio ymatebol a masnachau cysylltiedig i’w helpu i ddarparu gwasanaethau allweddol a chartrefi newydd ar gyfer eu cymunedau.

Cynhelir y digwyddiad yng Ngwesty a Sba Best Western Heronston, ddydd Mawrth 25 Mawrth rhwng 9.30am a 12.30pm, a bydd yn cynnwys:

  • Mewnwelediadau i gytundebau a chyfleoedd tendro sydd ar y gweill
  • Cymorth ar gyfer busnesau bach a chanolig i wneud cynigion am waith
  • Rhwydweithio gyda’n tîm a’n harbenigwyr diwydiant
  • Arweiniad ar werth cymdeithasol a sut y gall busnesau wneud gwahaniaeth

Mae mynychu’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim.

Dysgwch ragor a chofrestrwch eich lle.

<< Yn ôl at Newyddion