Mae tri digwyddiad a gynhelir gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn digwydd fis nesaf i helpu i dyfu a chefnogi eich busnes.
Cyllid a Chefnogaeth ar gyfer Busnes
Dyddiad: Dydd Mercher 6 Tachwedd
Amser: 9am – 12pm
Lleoliad: Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Heol y Bont-faen, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3DF
P’un a ydych yn chwilio am gyllid a chefnogaeth i hybu twf busnes neu’n awyddus i archwilio partneriaethau arloesol, ni fyddwch eisiau colli’r digwyddiad Cyllid a Chefnogaeth hwn sydd ar ddod.
Ymunwch â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd am fore cyffrous wrth iddynt agor y drysau i ystod eang o gyfleoedd cyllid a chefnogaeth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru.
O gydweithrediadau academaidd drwy raglenni a ariennir fel Partneriaethau SMART a Phartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, i opsiynau cyllid fel micro-fenthyciadau a buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru, hwn yw’r cyfle perffaith i ddysgu sut y gallwch uwchraddio eich busnes.
Byddwch hefyd yn clywed am fentrau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a chefnogaeth awdurdod lleol sydd ar gael gan Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, sydd oll wedi’u dylunio i rymuso a dyrchafu eich busnes.
Mae’r digwyddiad hwn yn cynnig mynediad unigryw at fewnwelediadau arbenigwyr, astudiaethau achos ysbrydoledig a thrafodaeth banel lle byddwch yn cael y cyfle i ofyn y cwestiynau llosg hynny. Mae’r sesiwn hon hefyd yn cynnig cyfle i rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol o’r un anian a chreu cysylltiadau gwerthfawr.
Nifer cyfyngedig o docynnau, archebwch eich tocyn chi heddiw!
Gweithgynhyrchu’r Dyfodol
Dyddiad: Dydd Mawrth 19 Tachwedd
Amser: 9am – 12pm
Lleoliad: Parth Dysgu Blaenau Gwent, Glynebwy Coleg Gwent, Rhodfa Calch, NP23 6GL
P’un a ydych yn berchennog busnes, gwneuthurwr penderfyniadau, neu’n syml yn frwdfrydig dros ddyfodol gweithgynhyrchu, mae’r digwyddiad hwn wedi’i ddylunio i ddarparu mewnwelediadau hanfodol a
Cewch glywed gan arbenigwyr diwydiant ac arweinwyr blaenllaw a fydd yn trafod y tueddiadau, y cyfleoedd a’r heriau diweddaraf sy’n siapio dyfodol gweithgynhyrchu.
Gyda phrif areithiau amhrisiadwy, astudiaethau achos ysbrydoledig a sesiwn banel Holi ac Ateb ddeinamig, nod y digwyddiad hwn yw darparu’r wybodaeth a’r strategaethau sydd eu hangen i ffynnu yn y dirwedd hon, sy’n esblygu.
Mae nifer y tocynnau yn gyfyngedig. Archebwch eich tocyn chi ar-lein.
Technloeg er Daioni
Dyddiad: Dydd Iau 28 Tachwedd
Amser: 9am – 12pm
Lleoliad: Coleg y Cymoedd, Stryd Wellington, Robertstown, Aberdâr, CF44 8EN
Ymunwch â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd wrth iddynt archwilio sut mae technoleg arloesol yn gyrru newid busnes a chymdeithasol cadarnhaol. Cyflwynir hyn i chi gan Brifysgol De Cymru, Coleg y Cymoedd a phartneriaid.
Enillwch fewnwelediadau gan arbenigwyr diwydiant, dysgwch o astudiaethau achos bywyd go iawn, a darganfyddwch strategaethau y gellir eu gweithredu i ddylanwadu ar eich busnes a’r ardal ehangach mewn modd cadarnhaol.
Nifer cyfyngedig o leoedd – archebwch eich tocyn.
Dilynwch ni