Bydd cyfres o ddigwyddiadau rhithiol yn cael eu cynnal yn ystod mis Hydref ynghylch y newyddion diweddaraf mewn Briff Arloesi.

Dydd Mawrth 18 Hydref 2022
1pm – 3pm
Mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Fynwy, mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i adnabod a chefnogi prosiectau er mwyn datblygu datrysiadau arloesol a all wella’r cynhyrchiad a chyflenwad cynaliadwy o fwyd. Mae’r Her yn chwilio am ymgeiswyr i fanteisio ar botensial tir, technoleg a phobl i gynyddu’r cynhyrchiad a chyflenwad cynaliadwy o fwyd a dyfir yn lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Dydd Mercher 26 Hydref 2022
10am – 4.45pm
Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd ag Innovate UK, Innovate UK KTN ac Innovate UK Edge yn cynnal Digwyddiad Cymhorthfa Cyllid Arloesi er mwyn cynorthwyo cwmnïau penodol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru i baratoi eu hunain yn well ar gyfer rhedeg Prosiectau Ymchwil a Datblygu mwy effeithiol.
Mae dau le ar ôl ar hyn o bryd i gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.
Dydd Iau 27 Hydref 2022
10am – 11am
Mae’r weminar hon yn cynnig crynodeb o newyddion Cymorth Arloesi gan:
Bydd y cyflwyniadau yn cwmpasu newyddion y chwarter diwethaf gyda’r newyddion disgwyliedig yn y chwarter nesaf.
Dilynwch ni