Diweddaru’r Mynegai Eiddo ar gyfer busnesau sy’n chwilio am adeilad canol tref

Dydd Iau 1 Gorffennaf 2021

Mae’r Mynegai Eiddo Canol Tref wedi’i adolygu a’i ddiweddaru, yn caniatáu i fusnesau wneud penderfyniadau gwybodus am eiddo canol trefi heb fod angen ymweliad safle.

Bydd darpar brynwyr sy’n chwilio am eiddo yng nghanol trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg yn gallu cyfeirio at y Mynegai i werthuso eiddo ar gyfer eu busnes yn ogystal â chael manylion cyswllt ar gyfer asiantau a gwybodaeth am yr eiddo. Darperir delwedd o bob eiddo hefyd.

Mae’r Mynegai Eiddo Canol Tref (External link – Opens in a new tab or window) yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd gyda chyfleoedd newydd i symud i eiddo canol tref ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Daw’r Mynegai wedi’i ddiweddaru mewn pryd ar gyfer Diwrnod Annibyniaeth y DU ar 4 Gorffennaf 2021, digwyddiad sy’n ceisio cefnogi a hyrwyddo busnesau manwerthu annibynnol ledled y DU drwy gydol y flwyddyn. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y digwyddiad ar wefan y Diwrnod Annibyniaeth. (External link – Opens in a new tab or window)

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cymryd rhan yn y dathliad ledled y DU gyda fideo cyfryngau cymdeithasol yn arddangos busnesau bach ar draws ein tair canol tref, sef Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg.

Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio:

“Mae’r Mynegai Eiddo Canol Tref yn adnodd pwysig, nid yn unig i fusnesau sy’n chwilio am adeiladau newydd, ond hefyd i adfywio canol ein trefi.

“Rydym yn annog busnesau a darpar brynwyr i ddefnyddio’r Mynegai i weld beth sydd gan ganol ein trefi ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg i’w gynnig.

“Hoffem hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddathlu’r amrywiaeth o fusnesau annibynnol sydd gennym yn y fwrdeistref sirol ac edrychwn ymlaen yn fawr at eu harddangos i weddill y wlad ar gyfer Diwrnod Annibyniaeth fis nesaf.”

<< Yn ôl at Newyddion