Eiddo ar gael i’w rentu ar gyfer busnesau ym Mhorthcawl
Dydd Llun 15 Gorffennaf 2024
Mae dau storfan ar gael i fusnesau eu rhentu ym Mhorthcawl at ddibenion hybu mentrau busnes masnachol bach yn yr ardal.
Mae’r storfannau wedi’u lleoli ym maes parcio De Hillsboro, ger yr adeilad Harlequin, ac maent ar gael am gyfnod dros dro o 3 blynedd.
Rhaid i unrhyw fusnesau â diddordeb ddal at y meini prawf isod:
- Rhaid bod yn darparu ar gyfer ymwelwyr a’r gymuned leol
- Rhaid i fusnesau fod o fewn y dosbarth defnydd A1 a rhaid iddynt fod yn darparu nwyddau neu wasanaethau sy’n gwella’r cynnig cyfredol o fewn Canol y Dref
- Rhaid darparu tystiolaeth y gall y busnes weithredu fel atynnwr ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn ar gyfer ymwelwyr o’r tu hwnt i Porthcawl, a chefnogi ei rôl fel cyrchfan i dwristiaid.
Bydd gofyn i’r tenant llwyddiannus wneud y canlynol:
- Cymryd prydles â lleiafswm cyfnod o 1 flwyddyn a mwyafswm cyfnod o 2 flynedd. Gall y Landlord neu’r Tenant ddod â’r brydles i ben drwy roi 3 mis o rybudd ysgrifenedig.
- Ar agor o leiaf 6 diwrnod yr wythnos.
- Talu costau cyfleustodau (Dŵr a Thrydan)
- Talu rhent cyfnod prysuraf (1 Mawrth tan 31 Hydref) o £125 yr wythnos a rhent cyfnod llai prysur (1 Tachwedd tan 28 Chwefror) o £75 yr wythnos (£5650 y flwyddyn)
- Sicrhau yswiriant atebolrwydd cyhoeddus addas
Dysgwch fwy
Dilynwch ni