Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflwyno’r Rhaglen NET

Dydd Llun 10 Chwefror 2020

Employability Bridgend logo

Yn ddiweddar cyflwynodd Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr y rhaglen Meithrin, Darparu, Ffynnu, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Bydd y rhaglen hon yn galluogi cyfranogwyr i wella sefyllfa eu cyflogaeth drwy gynnig cymorth ac arweiniad, magu hyder a chwilio am swyddi gyda chamau gweithredu unigol i gyfranogwyr.

Nod y prosiect yw helpu pobl i gynyddu eu horiau gwaith a’u cyflog, helpu cyfranogwyr i ddod o hyd i gyflogaeth barhaol neu ddatblygu cyfleoedd gyrfa drwy symud i swydd sy’n cyd-fynd yn well â’u hyfforddiant a’u sgiliau.

Mae unrhyw un sydd dros 16 oed, ac sy’n byw a gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr am hyd at 37 awr yr wythnos yn gymwys. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr drwy ffonio: 01656 815317 neu drwy anfon e-bost: Employability@bridgend.gov.uk.

<< Yn ôl at Newyddion