Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr bellach yn helpu pobl mewn gwaith

Dydd Llun 18 Mai 2020

CV thumbnail

Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda phobl sydd mewn gwaith a phobl ddi-waith ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Os ydych mewn swydd ar hyn o bryd, ond eisiau gwella eich sefyllfa gyflogaeth, gall Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ddarparu cymorth er mwyn: cynyddu eich oriau, symud i swydd newydd, symud i swydd well, ac enill cyflog uwch.

Mae amrywiaeth o gymorth ar gael, megis:

  • Cymorth cyflogadwyedd (ysgrifennu CV, ffurflenni caid)
  • Adeiladu hyder
  • Hyfforddiant am ddim
  • Costau gofal plant
  • Costau teithio

Fel y nodir uchod, mae hyfforddiant am ddim ar gael i unigolion a grwpiau. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys:

  • IOSH
  • Cerdyn CSCS
  • STLS Lefel 2 (Cynorthwyydd Addysgu)
  • ECDL
  • Diogelu L2
  • Cymorth Bywyd Sylfaenol L2
  • Iechyd Meddwl yn y Gweithle L2
  • Gwasanaeth Cwsmer L2
  • Diogelwch a Hylendid Bwyd L2

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr drwy ffonio: 01656 815317, E-bost: employability@bridgend.gov.uk, neu Facebook neu Twitter.

<< Yn ôl at Newyddion