Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Merched Cymru mewn Busnes 2023

Dydd Iau 30 Mawrth 2023

Mae hi nawr yn bosib enwebu ar gyfer Gwobrau Merched Cymru mewn Busnes.

Mae’r gwobrau yn agored i unrhyw ferch sy’n rhedeg busnes yng Nghymru. Gall merched o unrhyw ran o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr enwebu eu hunain, neu ferch arall, am wobr.

llais cymru awards 2023

Ceir 13 categori, sef:

  • Busnes Newydd (llai na 12 mis oed)
  • Mam mewn Busnes
  • Busnes Gwyrdd (busnes sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd)
  • Dan 25 oed
  • Pencampwr Manwerthu
  • Menter Gymdeithasol
  • Bwyd a Diod
  • Defnydd o’r Gymraeg
  • Iechyd, Ffitrwydd a Llesiant
  • Gwyddoniaeth, Technoleg ac Arloesi
  • Gwallt a Harddwch
  • Ffotograffiaeth, Celf a Dylunio
  • Hamdden a Thwristiaeth

Cynhelir y seremoni wobrwyo yn Yr Egin, Caerfyrddin ddydd Gwener 7 Gorffennaf 2023. Gallwch gyflwyno enwebiad hyd at ddydd Llun 17 Ebrill.

Mwy o wybodaeth a chyflwyno enwebiad.

<< Yn ôl at Newyddion