Excellent response from local businesses to council’s PPE appeal

Dydd Llun 6 Ebrill 2020

Personal Protective Equipment donations

Mae busnesau ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi miloedd o fasgiau, menig a throswisgoedd yn dilyn apêl gan yr awdurdod lleol am gyfarpar diogelu personol nad oedd ei angen arnynt.

Dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, mae gwaith Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Nolan Recycling, Dragon Laser, Prodem Fire and Safety, a Shelly’s Foods wedi dod i’r adwy gan ddarparu cyfarpar.

Mae’r eitemau’n cynnwys masgiau, menig glas nitril a ffedogau plastig – y mae galw am bob un ohonynt ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ar y rheng flaen yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Dywedodd Wallace Yearwood, rheolwr gwaith Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi cau dros dro o ganlyniad i COVID-19: “Rydym yn ystyried ein hunain yn rhan o’r gymuned ehangach, felly pan ddaeth y cyfle i gefnogi’r gymuned ehangach honno, roeddwn yn amlwg am wneud hynny.”  Mae’r gwaith wedi rhoi 13,500 o fenig nitril, 150 o droswisgoedd tafladwy a 100 o sbectolau diogelwch i’r awdurdod lleol.

Dywedodd Prodem Fire and Safety ei fod am helpu’r bobl a oedd yn gweithio ar y rheng flaen.

A dywedodd James Nolan, cyfarwyddwr Nolan Recycling: “Roeddem am wneud yr hyn ag y gallem i gefnogi staff y rheng flaen, a diolch iddynt, am y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud, rydym wir yn eu gwerthfawrogi.”

Mae prinder byd-eang wedi arwain at ddirywiad yng nghyflenwad cyfarpar diogelu personol ar gyfer gofalwyr sy’n gofalu am bobl, yn eu cartrefi eu hunain ac mewn cartrefi preswyl.

Yr wythnos ddiwethaf, apeliodd Huw David, arweinydd y cyngor, i fusnesau a oedd wedi’u gorfodi i roi’r gorau i fasnachu o ganlyniad i COVID-19 gysylltu â’r cyngor os oedd ganddynt gyfarpar diogelu personol i’w ychwanegu at y cyflenwad roedd y cyngor wedi’i archebu a’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd: “Rydym yn hynod ddiolchgar am haelioni’r busnesau lleol sydd wedi dod i’r adwy i roi eu cyflenwad o gyfarpar, a hebddynt byddai ein staff rheng flaen yn agored iawn i niwed.

“Rydym hyd yn oed wedi cael achos o unigolyn yn rhoi’r stoc roedd wedi’i harchebu iddo’i hun.

“Mae ein staff yn gofalu am bobl yn eu cartrefi ac mewn cartrefi preswyl ac yn gwneud yr hyn oll ag y gallant er mwyn diogelu ein trigolion rhag mynd yn sâl.

“Mae trefniadau cadarn yn eu lle ar gyfer dosbarthu cyfarpar diogelu personol, ac rydym hefyd yn cysylltu’n agos â’n partneriaid, ein gofalwyr annibynnol a gofalwyr preifat lleol er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn digon o stoc.

“Os oes unrhyw fusnesau sydd wedi rhoi’r gorau i fasnachu ac a allai ein helpu gyda chyflenwi cyfarpar diogelu personol, cysylltwch â ni er mwyn ein helpu i ymladd y feirws marwol hwn.”

Gofynnir i unrhyw fusnes sy’n gallu rhoi masgiau wyneb, menig glas nitril a ffedogau plastig nad oes eu hangen arno gysylltu â’r cyngor drwy anfon e-bost at Covid19@bridgend.gov.uk

<< Yn ôl at Newyddion