Mis ychwanegol o rent am ddim er mwyn cefnogi masnachwyr sy’n ailagor eu busnesau yn dilyn COVID-19

Dydd Mercher 8 Gorffennaf 2020

Bydd masnachwyr nad ydynt wedi gorfod talu am ddefnyddio safleoedd sy’n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros y tri mis diwethaf yn elwa ar fis ychwanegol o rent am ddim.

Yn ystod cyfnod pandemig y coronafeirws COVID-19, nid yw’r awdurdod lleol wedi codi tâl ar fusnesau bach a chanolig ar gyfer rhentu eiddo’r cyngor, fel stondinau ym Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr neu Farchnad Awyr Agored Maesteg, unedau cychwyn diwydiannol a mwy.

Nawr bod busnesau’n dechrau ailagor, a bod y cyfyngiadau symud yn cael eu llacio, mae’r cyngor wedi cadarnhau y bydd yn ymestyn y cyfnod o rent am ddim am fis arall.

Mewn ymateb i’r newyddion, dywedodd Gordon Woodbridge, cadeirydd Cymdeithas Masnachwyr Marchnad Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae hyn yn newyddion ardderchog – mae’r cyngor wedi ymestyn y cyfnod o rent am ddim am fis arall, a bydd y parcio am ddim yn parhau am gyfnod pellach.

“Alla i ddim canu digon o glod i’r cyngor am y cymorth y rhoddon nhw i fasnachwyr pan fu’n rhaid i ni gau oherwydd y feirws. Nawr ein bod yn masnachu unwaith eto, mae’n dal i fod yn adeg anodd, ac mae nifer yr ymwelwyr o leiaf 40 y cant yn llai, ond hoffwn ddiolch unwaith eto i’r cyngor am ei holl gymorth.”

Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio: Mae’r cyfnod o rent am ddim a ddarparwyd gan y cyngor i bob pwrpas yn cynrychioli pecyn cefnogi busnesau ychwanegol o fwy na £200,000.

Boed hynny drwy’r parcio am ddim sydd ar gael mewn sawl maes parcio ar hyn y bryd, y £28 miliwn rydym wedi’i brosesu mewn grantiau cymorth ariannol, y cyfnod o rent am ddim sy’n mynd rhagddo neu’r hyfforddiant a chyfarpar am ddim rydym wedi’u darparu ar gyfer busnesau sy’n ailddechrau, mae’r cyngor yn parhau i wneud yr hyn oll o fewn ei allu i gefnogi masnachwyr lleol ac i’w helpu i wynebu heriau’r coronafeirws.

Byddwn yn ystyried camau pontio ychwanegol sydd â’r nod o helpu busnesau bach a chanolig wrth i’r pandemig ddatblygu ymhellach, ac rydym hefyd yn parhau i weithio ochr yn ochr ag amrediad eang o bartneriaid er mwyn darparu cyngor a chymorth arbenigol sy’n adlewyrchu’r canllawiau cenedlaethol diweddaraf.

<< Yn ôl at Newyddion