Ffair Cymorth Busnes yn lansio ym Mhen-y-bont ar Ogwr cyn bo hir

Dydd Mawrth 27 Mehefin 2023

Mae busnesau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu gwahodd i fynychu Ffair Cymorth Busnes a fydd yn cael ei chynnal fis nesaf.

Bydd y digwyddiad am ddim yn cael ei gynnal ddydd Iau 20 Gorffennaf, rhwng 4pm a 6pm yn y Neuadd Fowlio Dan Do, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AH. Bydd hwn yn ddigwyddiad galw heibio am ddim, wedi’i anelu at fusnesau hen a newydd, yn cynnig arweiniad ar ystod eang o gefnogaeth mae’r llu o sefydliadau cymorth busnes yn ei chynnig.

Mae’r sefydliadau cymorth busnes a fydd yn mynychu’r ffair yn cynnwys Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, Busnes Cymru, Adran Gwaith a Phensiynau, Banc Datblygu Cymru, Gyrfa Cymru a nifer mwy.

Bydd busnesau hefyd yn gallu dysgu am gyfleoedd cyllid, gan gynnwys grantiau sydd ar gael.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol yn lansio nifer o gynlluniau grantiau newydd a fydd wedi’u cyllido gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth  DU, a byddant yn cefnogi busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i arallgyfeirio, datgarboneiddio a thyfu.

Mae rhai o’r cynlluniau grantiau newydd yn cynnwys Grant Datblygu Busnes, Grant Dichonoldeb Busnes, Grant Gwella Eiddo Creu Lleoedd Cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr a Grantiau Arolygu Eiddo Gwag.

Mae’r digwyddiad am ddim i bob busnes, ac nid oes angen cofrestru.

I ddysgu mwy am y ffair cymorth busnes, anfonwch e-bost at business@bridgend.gov.uk.

<< Yn ôl at Newyddion