Mae Google yn cyflwyno eu sesiynau Digital Garage i fusnesau ar draws Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Gwener 20 Hydref.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim a bydd yn cael ei ddarparu fel rhan o Wythnos Dechnoleg Cymru yn yr Academi STEAM ar Gampws Pencoed Coleg Penybont.
Bydd Hyfforddwyr Digidol o Google ar gael i ateb unrhyw gwestiynau yn ymwneud â datblygu eich busnes – unrhyw beth o greu gwefan i greu strategaeth ar gyfer y Cyfryngau Cymdeithasol. Bydd yn ddiwrnod o weithdai, sesiynau rhwydweithio cyfoedion a mentora un i un gan Google, a fydd yn cynnwys:
Mae lleoedd ar gyfer y digwyddiad yn gyfyngedig, felly argymhellir cadw eich lle cyn gynted â phosibl.
Bydd y broses gofrestru ar gyfer y digwyddiad yn dod i ben ddydd Mawrth 17 Hydref.
Dilynwch ni