Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymestyn ei gynllun rhenti rhatach ar gyfer masnachwyr marchnad a meddianwyr unedau diwydiannol bach.
Mae’r gostyngiad o 50 y cant, a fydd ar waith tan 31 Mawrth 2021, yn rhan o gyfres o gyfraddau rhenti rhatach a gyflwynwyd yn wreiddiol i gynorthwyo busnesau bach a chanolig wrth iddynt ailagor yn dilyn cyfnod clo cyntaf y pandemig.
A hwythau eisoes wedi cael gostyngiad o 75 y cant ym mis Awst a gostyngiad o 50 y cant ym mis Medi, roedd y masnachwyr i fod i elwa ar ostyngiad o 25 y cant ym mis Hydref.
Ond yn hytrach, cytunodd y cyngor y byddai’n ymestyn y gostyngiad o 50 y cant, ac y byddai’n adolygu’r trefniant yn rheolaidd trwy weddill y pandemig.
Yn ôl Hywel Williams, y Dirprwy Arweinydd: “Efallai fod lefelau’r Coronafeirws yn gwella o’r diwedd, ond mae’r pandemig yn parhau, a hyd nes y bydd pethau’n dychwelyd i’r drefn arferol rydym eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo busnesau bach a chanolig yn y fwrdeistref sirol.
“Dyma’r elfen ddiweddaraf mewn pecyn o gymorth blaenorol, sydd eisoes wedi cynnwys gohirio rhenti’n llwyr ac ailgyflwyno rhenti’n raddol trwy ddefnyddio amrywiaeth o gyfraddau rhatach.
“Mae’r cymorth hwn yn ychwanegol at y £37m a mwy a roddwyd ar ffurf grantiau cymorth, cyfnodau estynedig o barcio am ddim, hyfforddiant dechrau’n ôl rhad ac am ddim, offer rhad ac am ddim i gadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel, a llawer mwy.”
Dilynwch ni