Gwahoddiad i fusnesau rannu eu barn ar Agenda Sgiliau’r Dyfodol

Dydd Mawrth 5 Ebrill 2022

Mae busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael gwahoddiad i rannu eu barn ar Agenda Sgiliau’r Dyfodol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Lansiwyd Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn 2019, ac mae wedi arwain at newidiadau sylweddol yn y ffordd mae busnesau’n gweithio ers y dechrau. Mae’r newidiadau a gyflwynwyd o ganlyniad i’r pandemig parhaus wedi golygu bod busnesau wedi nodi llawer o sgiliau newydd.

Mae’r CCR yn chwilio am fusnesau ledled Cymru i rannu eu barn ar beth ddylai Agenda Sgiliau’r Dyfodol ganolbwyntio arno. Mae’r cynllun hwn yn allweddol i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am ba sgiliau a hyfforddiant sy’n ofynnol yn ein rhanbarth a lle mae angen iddyn nhw ddyrannu eu cyllid er mwyn bodloni’r gofynion hynny.

Gellir cwblhau’r arolwg hwn yn ddienw, a’r dyddiad cau yw 31 Gorffennaf 2022.

Dysgwch fwy a lleisiwch eich barn.

<< Yn ôl at Newyddion