Mae Gwobrau Technoleg Cymru wedi dychwelyd yn swyddogol ar gyfer 2022 ar ôl absenoldeb o dair blynedd.
Mae’r gwobrau wedi’u trefnu gan Technology Connected a’u bwriad yw helpu i roi sylw i’r diwydiant technoleg deinamig ac arloesol ledled Cymru.
Cynhelir y digwyddiad ar 15 Medi yng Ngwesty Mecure Holland House yng Nghaerdydd a bydd yn dechrau am 6pm.
Mae busnesau technoleg ledled Cymru wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau ac mae tocynnau i fynychu’r digwyddiad bellach ar gael i’w prynu.
Cyhoeddir rhestr fer pob gwobr ar 5 Gorffennaf.
Rhagor o wybodaeth a mynnu’ch lle yn y digwyddiad.
Dilynwch ni