Hyfforddiant Cymorth i Gyflogwyr Pen-y-bont ar Ogwr ar gael i fusnesau

Dydd Iau 24 Ebrill 2025

Mae rhaglen newydd ar gael i fusnesau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynnig cymorth a chryfder i’ch gweithlu.

Mae Hyfforddiant Cymorth i Gyflogwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn gynllun newydd gan Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr sy’n cael ei gynnig i fusnesau’r ardal i symleiddio’r broses recriwtio a helpu trigolion i mewn i waith.

Bydd y rhaglen yn cynnwys:

  • Treial gwaith pythefnos, lle gall busnesau dreialu darpar weithwyr mewn amgylchedd gwaith gwirioneddol
  • Hyfforddiant cyn cyflogaeth a hyfforddiant yn y gwaith
  • Mynediad at becynnau hyfforddi wedi’u teilwra ar gyfer pob un sy’n dechrau swydd
  • Cymorth recriwtio am ddim gan dîm yr Hyfforddiant Cymorth i Gyflogwyr
  • Chwe mis o fentora wedi’i deilwra yn y gwaith
  • Cymorth personol parhaus i’ch gweithwyr

Nid oes unrhyw gost nac ymrwymiad i’r cynllun a bydd tîm yr Hyfforddiant Cymorth i Gyflogwyr wrth law i’ch tywys chi a’ch gweithiwr trwy bob cam.

Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â thîm yr Hyfforddiant Cymorth i Gyflogwyr drwy ffonio 01656 815317 neu e-bostio jobs-employabilitybridgend@bridgend.gov.uk.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

<< Yn ôl at Newyddion