Gwybodaeth a chyngor pwysig am COVID-19 i gyflogwyr a chyflogeion

Dydd Gwener 3 Gorffennaf 2020

Mae gwybodaeth a chyngor pwysig am COVID-19 bellach ar gael i gyflogwyr a chyflogeion ar wefan Cymru Iach ar Waith.

Mae’r safle yn cyfuno cyfoeth o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Galw Iechyd Cymru i helpu i gyfeirio busnesau at y canllawiau perthnasol.

Mae’n cynnwys canllawiau sy’n benodol i sectorau ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y meysydd manwerthu, gweithgynhyrchu, bwyd a chyfleusterau pecynnu cig, chwaraeon a hamdden, busnesau anifeiliaid, diwydiannau creadigol, busnesau coedwigaeth a thwristiaeth.

Bwriedir cyhoeddi dogfennau canllaw eraill sy’n benodol i sectorau eraill yn fuan, sy’n cynnwys swyddfeydd a chanolfannau galwadau, y diwydiant adeiladu a staff sy’n gweithio yng nghartrefi pobl eraill, yn ogystal â’r defnydd o gerbydau yn y gwaith.

Mae’r wybodaeth gyffredinol i gyflogeion yn cynnwys:

  • canllawiau ar ddychwelyd i’r gweithle a theithio i’r gwaith
  • sut i wneud cais am nodyn ynysu i’w roi i’ch cyflogwr os gofynnwyd i chi hunanynsyu gan swyddog olrhain cysylltiadau, os oes gennych symptomau’r coronafeirws, os ydych mewn swigen gymorth gyda rhywun sydd â symptomau’r coronafeirws neu’n byw gyda rhywun sydd â symptomau.
  • tâl a cholli cyflog
  • cyngor ar iechyd a llesiant
  • os ydych yn gwarchod

Darperir cyngor a chanllawiau ychwanegol i gyflogwyr, yn cynnwys:

  • sut i gyfleu’r strategaeth Profi Olrhain Diogelu, gyda phecyn cymorth sy’n cynnwys posteri argraffadwy a digidol, asedau cymdeithasol a fideo eglurhaol
  • yr angen am weithdrefnau glanhau rheolaidd a hylendid gwell yn y gwaith
  • mesurau y gall cyflogwyr eu dilyn er mwyn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws
  • asesu anghenion gweithwyr/cyflogeion unigol sy’n gweithio o gartref
  • asesiadau risg ar y lefel briodol o gyfarpar diogelu personol
  • gwarchod cyflogeion neu aelodau o’r cartref
  • sut i wirio bod nodyn ynysu yn ddilys
  • ffreuturau a mannau gorffwys
  • grantiau a chynlluniau ariannu ar gyfer busnesau

Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Er mwyn ymateb i’r pandemig COVID-19 a darparu gwybodaeth wedi’i diweddaru i gyflogwyr yng Nghymru, mae Cymru Iach ar Waith wedi llunio cyfres o ddolenni pwysig i adnoddau COVID-19 ar gyfer cyflogwyr ac unigolion/cyflogeion.

“Mae cyfoeth o wybodaeth ar gael, ond mae’n aml yn anodd dod o hyd iddi – mae’r safle hwn yn cynnwys yr holl ganllawiau perthnasol a chaiff canllawiau newydd eu hychwanegu wrth iddynt gael eu llunio.

“Rydym yn annog cyflogwyr i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf a’u bod yn rhoi gwybod i’w staff ble y gallant gael mynediad at wybodaeth berthnasol.

“Wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, mae’n hanfodol dilyn y canllawiau cenedlaethol i sicrhau bod ein gweithleoedd a’n cwsmeriaid yn cael eu diogelu gymaint â phosibl.”

I gael rhagor o fanylion ewch i’r adran gwybodaeth a chyngor ar COVID-19 i gyflogwyr a chyflogeion yma ar wefan Cymru Iach ar Waith.

<< Yn ôl at Newyddion