Ysbrydoli, llogi, tyfu: Sut i Fanteisio ar Ddawn Rhai sydd wedi bod yn y Lluoedd Arfog

Dydd Mercher 15 Ionawr 2020

Mae Busnes yn y Gymuned Cymru wedi datblygu pecyn cymorth i helpu cyflogwyr i gydnabod sgiliau a phrofiadau gwerthfawr y gall cyn-filwyr eu cyfrannu at eu busnesau a deall y camau ymarferol y gallant eu cymryd i greu amgylchedd gwaith sy’n fwy ystyriol o gyn-filwyr. Mae’n arwain busnesau drwy broses syml o ddatblygu rhaglen recriwtio a chadw staff strategol sy’n ystyriol o gyn-filwyr.

Bwriad y pecyn cymorth yw codi ymwybyddiaeth i ddarpar gyflogwyr o’r ystod unigryw ac eang o sgiliau ac ymddygiad sydd gan gyn-aelodau o’r lluoedd arfog wrth ddychwelyd i fyw fel sifiliaid, profiad a fyddai’n ased i unrhyw gwmni. Mae’n darparu canllaw syml i gyflogi cyn-filwyr Lluoedd Arfog a lluoedd wrth gefn yng Nghymru.

Pum rheswm i gyflogi cyn-filwyr yn eich busnes:

  • Mae cyn-filwyr yn hynod gymwys
  •  Mae gan gyn-filwyr agweddau gwerthfawr ac maent yn hyblyg
  •  Mae cyn-filwyr yn weithwyr medrus
  •  Mae cyn-filwyr yn weithwyr hynod effeithiol
  •  Mae cyflogi cyn-filwyr yn dda i fusnes a’r gymuned
Mae’r cyngor yn y pecyn cymorth yn berthnasol i fusnesau o bob maint mewn unrhyw sector.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Business in the Community Cymru.

<< Yn ôl at Newyddion