Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau’r Great British Businesswoman 2022 yn awr ar agor

Dydd Llun 22 Awst 2022

Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau’r Great British Businesswoman yn awr ar agor, gyda menywod busnes ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i ymgeisio neu enwebu.

Mae’r gwobrau yn arddangos unigolion sy’n esiamplau busnes, eiriolwyr a mentoriaid da, yn ogystal â’r menywod ysbrydoledig sy’n arwain busnesau a’r rhai sy’n codi i uchelfannau newydd. Mae yna ystod eang o gategorïau ar gael i ymgeisio amdanynt ac enwebu ar eu cyfer, megis:

  • Menyw Fusnes Ifanc
  • Llysgennad Benywaidd y Flwyddyn
  • Seren y Byd Chwaraeon
  • Seren y Dyfodol
  • Tîm y Flwyddyn
  • Esiampl Dda y Flwyddyn

Gall ymgeiswyr ymgeisio ar gyfer sawl categori yn rhad ac am ddim.

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Mercher 31 Awst 2022.

Bydd rhestr fer derfynol yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr wythnos yn dechrau ddydd Llun 12 Medi 2022.

Ymgeisiwch ar-lein

<< Yn ôl at Newyddion