Yr angen am fuddsoddiad newydd ym mwrdeistref sirol Pen-y- bont ar Ogwr yn ‘fwy nag erioed’ yn dilyn cyhoeddiad gan Ineos

Dydd Mercher 8 Gorffennaf 2020

Mae arweinydd a chabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi mynegi eu siom a’u pryder yn dilyn y newyddion bod Ineos yn atal ei gynlluniau ar gyfer sefydlu cyfleuster cynhyrchu newydd ar hen safle Ffatri Injans Ford.

Er gwaethaf ymdrechion a buddsoddiad sylweddol gan dasglu sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae Ineos wedi cyhoeddi’n gyhoeddus ei fod wedi atal ei gynlluniau, ac yn cynnal trafodaethau ynglŷn ag ail-leoli i safle arall yn Ffrainc.

Huw David, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: Mae’r cyhoeddiad hwn yn codi amheuon ynglŷn â’r cynlluniau a gyhoeddwyd gan y cwmni yn flaenorol o safbwynt ail-leoli i’r fwrdeistref sirol, ac yn dilyn yr effaith economaidd sylweddol y mae’r coronafeirws COVID-19 parhaus yn ei chael ar yr ardal.

Mae’n enwedig o siomedig ar ôl holl waith caled ac ymdrechion Tasglu Pen-y-bont ar Ogwr, a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn sgil penderfyniad Ford i gau ei ffatri injans ar ôl mwy na 40 blynedd o fod yn yr ardal. Mae’r angen am fuddsoddiad newydd ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn fwy nag erioed, ac mae angen eglurder brys arnom, nid yn unig o safbwynt yr hyn y mae Ineos yn bwriadu ei wneud, ond hefyd o ran pa gamau gweithredu y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn eu cymryd mewn ymateb i’r datblygiad diweddaraf hwn.

Rwyf wrthi’n ysgrifennu at weinidogion i geisio eglurhad pellach o safbwynt hyn, ac i gael cadarnhad y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn parhau i weithio ar ddarparu datrysiadau sydd â’r nod o greu ac annog buddsoddiad a swyddi newydd ar frys, diogelu swyddi presennol, a sicrhau llesiant economaidd y fwrdeistref sirol i’r hirdymor.

Ychwanegodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod y Cabinet dros Gymunedau: “Fel cwmni Prydeinig, rwy’n annog Ineos i ddangos ei gefnogaeth dros weithwyr Prydeinig drwy barhau â’r cynlluniau ar gyfer datblygu cyfleuster newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

“Bydd y cyngor a’i bartneriaid yn parhau i wneud popeth a allwn i gefnogi’r gymuned, ac i sicrhau’r effaith leiaf posibl ar yr economi leol. Ond nawr, yn fwy nag erioed o’r blaen, mae angen buddsoddiad sylweddol a brys ar fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn helpu i wrthbwyso’r effaith anferth bosibl y bydd y penderfyniad hwn yn ei chael.”

<< Yn ôl at Newyddion