Baratoi eich busnes ar gyfer Pontio Brexit

Dydd Mawrth 3 Tachwedd 2020

Business Wales webinar thumbnail

Mae Busnes Cymru yn rhedeg Rhaglen Cyflymu Twf a ddarperir gan Gonsortiwm Excelerator. Mae cyfres o weminarau ar gael a all helpu i baratoi eich busnes ar gyfer Pontio Brexit.

Pontio Brexit – Mae’r Cloc yn Tician. Ydych Chi’n Barod?

Bydd y weminar hon yn bwrw golwg ar y goblygiadau ar y cyfan i’ch busnes; beth fydd yn ei olygu i’ch cadwyn gyflenwi, eich allforion cyfredol a’ch cyfleoedd yn y dyfodol. Byddwn yn adnabod yr heriau y mae angen i chi fynd i’r afael â hwy a sut, trwy ddefnyddio offeryn hunanasesu Pontio Llywodraeth y DU, y gallwch chi baratoi eich busnes i fod yn Barod am Brexit.

📅 Dydd Mercher 11 Tachwedd

⏰ 9.30am – 10.30am

Rhagor o wybodaeth ac archebu yn awr.


Pontio Brexit – Sut fydd yn effeithio ar eich strategaeth fusnes?

Gweminar ar beth fydd diwedd cyfnod pontio Brexit yn ei olygu i’ch strategaeth fusnes.

📅 Dydd Mercher 18 Tachwedd

⏰ 9.30am – 10.30am

Rhagor o wybodaeth ac archebu yn awr.


Pontio Brexit – Arloesi yn y byd ar ôl pontio y tu allan i’r UE

Pa newidiadau allwn ni eu disgwyl gyda neu heb gytundeb a’r camau y gallwch chi eu cymryd i sicrhau eich bod yn aros ar y trywydd cywir.

📅 Dydd Mercher 25 Tachwedd

⏰ 9.30am – 10.30am

Rhagor o wybodaeth ac archebu yn awr.


Pontio Brexit – Gwerthiant a Marchnata y tu allan i’r UE – a oes unrhyw beth wedi newid?

Bydd y weminar ryngweithiol hon yn bwrw golwg o’r newydd ar strategaethau gwerthiant a marchnata ar ôl y cyfnod pontio.

📅 Dydd Mawrth 1 Rhagfyr

⏰ 9.30am – 10.30am

Rhagor o wybodaeth ac archebu yn awr.


Pontio Brexit – Diweddariad ar gontractau masnachol a materion cyfreithiol

Bydd y weminar hon yn rhoi sylw i’r prif ystyriaethau y mae angen iddynt fod ym mlaen eich meddwl wrth i ni nesáu at ddiwedd y cyfnod pontio – o gontractau masnachol i gyfraith cyflogaeth ac Eiddo Deallusol (IP).

📅 Dydd Gwener 4 Rhagfyr

⏰ 9.30am – 10.30am

Rhagor o wybodaeth ac archebu yn awr.


Pontio Brexit – Rheoli Pobl ac Adnoddau Dynol – Yr hyn y mae angen i chi ei wybod

Yn ystod y weminar hon, byddwn yn rhoi sylw i gyfyngiadau ar symudiadau pobl a sut allai hyn edrych os ceir neu os na cheir cytundeb. Byddwn yn trafod proffilio sgiliau a sut i gynllunio rhag blaen ar gyfer llenwi unrhyw fylchau posibl os ceir neu os na cheir cytundeb. Byddwn yn adolygu polisïau a gweithdrefnau allweddol y gall fod angen i chi eu hadolygu a’u diweddaru, a’r ymgynghori y gallai fod angen ei wneud ar gyfer hyn; a byddwn yn ystyried y cyfleoedd a allai fod ar gael yn y cyfnod hwn o newid i helpu eich busnes i dyfu.

📅 Dydd Llun 7 Rhagfyr

⏰ 9.30am – 10.30am

Rhagor o wybodaeth ac archebu yn awr.


Pontio Brexit – Allforio – y cyfleoedd a’r heriau

Fe wyddom ni i gyd y bydd masnachu gyda’r UE yn wahanol ar ôl diwedd y cyfnod pontio ond ydych chi wedi ystyried yr holl oblygiadau, os ceir neu os na cheir cytundeb? Bydd y weminar hon yn mynd â chi drwy’r newidiadau anorfod a beth fyddant yn ei olygu i’ch busnes.

📅 Dydd Mercher 9 Rhagfyr

⏰ 9.30am – 10.30am

Rhagor o wybodaeth ac archebu yn awr.

 

<< Yn ôl at Newyddion