Mae busnesau’n cael eu hannog i fod yn wyliadwrus o sgâm twyll sy’n targedu cyflenwyr offer presennol a phosibl i sefydliadau fel y cyngor.
Yn ddiweddar, mae busnes lleol wedi colli gwerth bron i £40,000 o nwyddau o ganlyniad i dwyll.
Atgoffir busnesau fod pob neges e-bost ddilys gan yr awdurdod yn cael ei anfon o gyfeiriad e-bost ‘@bridgend.gov.uk’.
Mae unrhyw un sy’n credu ei fod wedi cael e-bost amheus yn cael ei annog i roi gwybod i uwch ymchwilydd twyll y cyngor.
Dysgwch fwy am sut i osgoi sgamiau a sut i roi gwybod am sgam.
Dilynwch ni