Shopmobility i ddychwelyd wrth i’r cynnig parcio am ddim gael ei ymestyn

Dydd Mawrth 25 Mai 2021

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau bod cynlluniau ar waith i ail-lansio gwasanaeth Shopmobility canol y dref.

Roedd yn rhaid cau’r gwasanaeth, sy’n cynnig y defnydd o sgwter trydanol, cadeiriau olwyn, a mwy, i siopwyr anabl, dros dro yn dilyn cau maes parcio aml-lawr Brackla One, yn Cheapside yng nghanol y dref.

Nid oedd modd i’r maes parcio aml-lawr ail-agor yn dilyn y cyfnod clo rhybudd pedwar diweddar ar ôl i swyddogion y cyngor ganfod tystiolaeth bod lludded is-arwyneb yn y cyfleuster ac yn achosi i ddarnau o goncrid gwympo o nenfydau’r llawr uchaf.

Er bod lloriau uwch y maes parcio, a adeiladwyd yn y 1970au, yn parhau i fod wedi cau dros dro er diogelwch y cyhoedd, mae swyddogion wedi cadarnhau bod modd ail-ddechrau’r gwasanaeth Shopmobility’n ddiogel.

Mae trefniadau’n cael eu gwneud ar hyn o bryd ar gyfer ail-lansio’r gwasanaeth, a bydd manylion llawn yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

Yn y cyfamser, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd wedi cadarnhau y bydd parcio am ddim yng nghanol y dref mewn nifer o feysydd parcio a reolir gan y cyngor yn parhau am fis ychwanegol tan ddiwedd mis Awst.

Mae’r cynnig yn golygu y gall gyrwyr barcio am ddim am hyd at dair awr ym maes parcio aml-lawr Rhiw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a rhwng hanner dydd a 3pm ym maes parcio Stryd John ym Mhorthcawl.

Mae parcio rhad ac am ddim yn parhau i fod ar gael ym maes parcio aml-lawr Ffordd Llynfi ym Maesteg a maes parcio Ffordd Penprysg ym Mhencoed.

Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd Stuart Baldwin:

“Mae’n wych gweld busnesau’n ail-agor wrth i gyfyngiadau’r pandemig barhau i lacio.

“Mae’r cyngor yn gwneud pob ymdrech i gefnogi masnachwyr lleol, a bydd y cynnig parcio am ddim ac ail-lansiad y gwasanaeth Shopmobility yn helpu i ddenu siopwyr a’i wneud yn haws i bobl ymweld â chanol y dref, a’i wneud yn fwy hygyrch.”

  • Cadwch lygad am ragor o fanylion ynghylch sut fydd Shopmobility’n cael ei ail-lansio yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn fuan.
<< Yn ôl at Newyddion