South Wales Food and Drink

Dydd Llun 18 Mai 2020

South wales food and drink logo

Rhoddwyd cyfle i fashnachwyr bwyd a diod lleol fasnachu ar-lein gan ddefnyddio gwefan newydd i gyrraedd cwsmeraid newydd ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a de Cymru.

Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio mewn partneriaeth â chwmni o’r enw Urban Foundry i gynnig cyfle i fasnachwyr bwyd a diod lleol fasnachu ar-lein gan ddefnyddio gwefan newydd fydd yn galluogi iddynt gyrraedd cwsmeriaid newydd ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a de Cymru. 

Mae’r wefan newydd yn ffordd i ddarparwyr bwyd a diod hysbysebu eu hunain, rheoli eu gwybodaeth eu hunain a’i diweddaru. 

Mae’n agored i unrhyw fusnes bwyd a diod bach ar draws y fwrdeistref sirol, a rhanbarth ehangach de Cymru, a gallwch gofrestru a’i defnyddio am ddim. 

Cofrestrwch yma

<< Yn ôl at Newyddion