Mae Stepping Stone Spa wedi ennill gwobr yng Ngwobrau Trin Gwallt a Harddwch Cymru 2022.
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ddydd Sul 29 Mai ac roedd y sba yn erbyn naw o enwebeion eraill ledled Cymru.
Mae’r sba, sydd wedi’i lleoli yng Ngwesty Best Western Heronston ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn cynnig triniaethau sba i drigolion ledled y fwrdeistref sirol, gan ddefnyddio cynnyrch di-greulondeb a fegan yn eu triniaethau.
Hoffai Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr longyfarch Stepping Stone Spa ar gipio’r wobr!
Rhagor o wybodaeth a’r rhestr lawn o enillwyr o Wobrau Trin Gwallt a Harddwch Cymru.
Dilynwch ni