Sut mae’r cyngor yn cefnogi manwerthwyr yng nghanol y dref

Dydd Llun 19 Ebrill 2021

Gan fod manwerthwyr nad ydynt yn hanfodol wedi cael ailagor yr wythnos hon, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig ystod o fesurau i gefnogi busnesau a helpu i gadw siopwyr yn ddiogel.

Ddydd Llun, cafodd mwy o gyfyngiadau’r pandemig Covid-19 eu llacio a chafodd rhai manwerthwyr groesawu siopwyr yn ôl am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr.

Arweiniodd hyn at gynnydd amlwg yn nifer yr ymwelwyr yng nghanol trefi o’i gymharu â’r wythnos ddiwethaf. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ymwelodd 15,327 o bobl â chanol y dref ddydd Llun Ebrill 12, sy’n gynnydd o 325.6% ar y dydd Llun blaenorol. Ym Maesteg, gwelwyd cynnydd o 183.2% i 2,911 a gwelwyd cynnydd o 13% i 8,120 ym Mhorthcawl.

Er mwyn cefnogi ailagor manwerthu nad yw’n hanfodol, mae’r cyngor wedi bod yn gweithio gyda Fforwm Masnachwyr Pen-y-bont ar Ogwr, Siambr Fasnach Porthcawl a Chymdeithas Fusnes Maesteg i ddosbarthu hylif diheintio dwylo i fusnesau yng nghanol y trefi.

Mae marciau ac arwyddion cadw pellter cymdeithasol yn cael eu harddangos ac mae busnesau wedi cael gwybod sut i lawrlwytho posteri i helpu siopwyr i ddeall y rheolau sydd ar waith ar eu safle.

Mae parcio rhad ac am ddim yn parhau tan ddiwedd mis Mai – gall gyrwyr barcio am ddim am y dair awr gyntaf ym maes parcio aml-lawr Rhiw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a rhwng hanner dydd a 3pm ym maes parcio Stryd John ym Mhorthcawl. Mae parcio rhad ac am ddim hefyd ar gael ym maes parcio aml-lawr Heol Llynfi ym Maesteg, maes parcio Heol Penprysg a maes parcio Heol y Groes ym Mhencoed.

I nodi’r ailagor, mae baneri lliwgar wedi cael eu gosod ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl. Mae gan bob un cynllun liwiau gwahanol i ddathlu eu hunaniaeth unigryw. Gellir lawrlwytho apiau ‘We Love’ ar gyfer y tair canol tref o’r dudalen we apiau (External link – Opens in a new tab or window).

Disgwylir y bydd lletygarwch awyr agored yn ailagor erbyn diwedd y mis, ac mae caffis, tafarndai a bwytai wedi bod yn gosod cyfleusterau allanol ar gyfer cwsmeriaid, gyda’r mwyafrif yn cael eu cefnogi gan grantiau’r Gronfa Adfer Wedi Covid-19 ar gyfer Gwelliannau Awyr Agored.

Mae’r cyngor hefyd wedi rhoi proses weinyddol newydd ar waith i ddelio â cheisiadau gan fusnesau sy’n dymuno gosod byrddau a chadeiriau ar y briffordd gyhoeddus.

<< Yn ôl at Newyddion