Tocynnau brecwast rhwydweithio Dydd Gŵyl Dewi bellach ar gael

Dydd Gwener 3 Chwefror 2023

Mae Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn falch o wahodd busnesau ledled y fwrdeistref sirol i’n digwyddiad rhwydweithio arfaethedig. Yn ogystal â chyfleoedd rhwydweithio gwych, bydd y digwyddiad yn rhoi llwyfan i ddiweddaru aelodau cyfredol a darpar aelodau ar weithgareddau’r fforwm wrth symud ymlaen.

Dyddiad: Dydd Mercher 1 Mawrth 2023

Amser: 7.30am er mwyn dechrau am 8.00am tan 10:00am

Lleoliad: Gwesty Atlantic, 6 Rhodfa’r Gorllewin, Porthcawl, CF36 3LT

Cost: Rhad ac am ddim i’w fynychu (gan gynnwys brecwast)

Bydd busnesau hefyd yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cryno i hyrwyddo eich busnes, sy’n gyfle perffaith i ailgysylltu, yn ogystal â chwrdd â chysylltiadau diwydiant newydd ar draws ystod o wahanol sectorau a diwydiannau. Yr hyn sy’n bwysig yw manteisio i’r eithaf, gan roi’r cyfle i chi werthu eich cynnyrch a’ch gwasanaethau. Dewch â digonedd o gardiau busnes a deunyddiau hyrwyddo gyda chi.
Bydd y digwyddiad hwn yn sicrhau eich bod yn cael cyfle i gwrdd â busnesau eraill o’r un anian â chi mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar.

Mae cyfleoedd cyfyngedig ar gael i gynnal stondin arddangos yn y digwyddiad hwn. I wneud ymholiad am arddangos yn y digwyddiad hwn, anfonwch e-bost at: business@bridgend.gov.uk

Byddwch yn cael 1 x stondin baner fesul cwmni, a bydd bwrdd bach yn cael ei gynnig.

I ddysgu mwy ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad

<< Yn ôl at Newyddion