Arolwg busnesau twristiaeth Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Mawrth 2 Mehefin 2020

Survey thumbnail

Gofynnir i fusnesau sy’n ymwneud â’r diwydiant twristiaeth ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gymryd rhan mewn arolwg er mwyn dangos sut yn union y mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith arnynt, a thrafod cynigion ar gyfer y dyfodol.

Mae’r awdurdod lleol wedi anfon yr arolwg at y rheiny sy’n rhan o’r economi ymwelwyr, o westai, tafarndai a chaffis i atyniadau, darparwyr gweithgareddau, gwersyllfaoedd a busnesau eraill.

Gwahoddir gweithredwyr twristiaeth nad ydynt wedi derbyn yr arolwg i gymryd rhan trwy gwblhau’r ffurflen fer ‘effaith ar fusnes’ ar-lein i ddechrau, ac wedyn caiff yr arolwg twristiaeth ei anfon atynt.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio’r wybodaeth ohono i ganolbwyntio ar ddarparu ei gymorth wrth i gyfyngiadau gael eu codi’n raddol, gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a Croeso Cymru.

Mae’r arolwg, sy’n cwmpasu’r effaith ar refeniw, staff a goroesiad busnesau i’r hirdymor, yn rhan o ymarfer ehangach ynghylch ymgysylltu â busnesau sy’n gysylltiedig â chynllunio’r economi i’r dyfodol. Ar sail adborth gan fusnesau manwerthu, mae hyn yn barod wedi arwain at becyn ailddechrau ar gyfer busnesau, sy’n cynnwys hyfforddiant ar-lein am ddim ar ymwybyddiaeth o COVID-19 er mwyn sicrhau bod y safle wedi’i baratoi’n dda cyn croesawu cwsmeriaid yn ôl, a gard rhag tisian i helpu i ddiogelu staff a chwsmeriaid.

Mae twristiaeth yn ychwanegu dros £350 miliwn i economi’r fwrdeistref sirol ac mae’n cynnal dros 4,000 o swyddi. Os collir llawer o fusnes adeg prysuraf tymor yr haf, neu os bydd yn gweithredu gyda nifer sylweddol is o staff, rydym am archwilio’r opsiynau ar gyfer cefnogi’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch o ystyried ei bwysigrwydd i’r economi lleol.

Rydym am gynnal sgwrs â’r diwydiant er mwyn deall yr opsiynau ar lefel leol a chenedlaethol yn well. Mae’n amlwg na fyddwn yn gallu gwneud popeth sy’n ofynnol, ond wrth i gyfyngiadau gael eu codi’n raddol, ac wrth i ni ddechrau meddwl am adfer, rydym am fod yn y sefyllfa orau posibl i gefnogi busnesau.

Er mai’r neges o hyd yw ‘Dewch i ymweld â bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Nes ymlaen’, mae’n hanfodol ein bod ni, fel sir ac fel gwlad, ynghyd â gweddill Cymru, yn cynllunio’r dyfodol gyda’n gilydd fel bod ein cymunedau lleol, ac ymwelwyr y dyfodol y bydd croeso mawr iddynt, yn sicr ein bod yn gweithio i gyrraedd y cydbwysedd cywir rhwng bod yn groesawgar ac eto’n ddiogel.

Charles Smith, aelod cabinet y cyngor dros addysg ac adfywio

Rydym yn annog pob busnes i wirio’n tudalen we Coronafeirws (COVID-19): cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf am ddiweddariadau rheolaidd, yn ogystal â chael gwybodaeth am y coronafeirws COVID-19 o wefan Llywodraeth Cymru. 

Am unrhyw ymholiadau ynglŷn â chymorth i fusnesau, anfonwch e-bost at: business@bridgend.gov.uk

Isod, ceir y wybodaeth ddiweddaraf am rywfaint o’r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd i fusnesau lleol ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Dyddiad cau wedi’i gadarnhau ar gyfer cyllid i fusnesau

Mae gan fusnesau ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr hyd at 5pm ar 30 Mehefin 2020 i wneud cais am gymorth cyllid grant gan Lywodraeth Cymru. Gyda’r nod o helpu masnachwyr i wynebu heriau’r cyfyngiadau symud yn ystod pandemig y coronafeirws COVID-19, mae’r cymorth ar gael i fusnesau sy’n gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach yng Nghymru ac sydd wedi’u lleoli mewn adeiladau sydd â gwerth ardrethol o ddim mwy na £12,000. Mae’n cynnwys y rheiny sy’n gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach gan eu bod yn dod o dan y trothwy o £6,000 ac nad ydynt yn talu ardrethi busnes ar hyn o bryd. Mae grantiau hefyd ar gael i fusnesau sydd yn y sectorau manwerthu, hamdden neu letygarwch sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000. Gellir gwneud ceisiadau trwy gwblhau ffurflen cymorth i fusnesau gan Lywodraeth Cymru ar-lein – er mwyn osgoi oedi wrth brosesu ceisiadau, mae’n hanfodol fod pob ymgeisydd yn darparu gwybodaeth gywir a hanfodol gan gynnwys copïau o gyfriflenni banc sy’n dangos manylion banc.

Dros 2,200 o fusnesau wedi’u cefnogi hyd yn hyn

Ers lansio’r pecyn achub ariannol o £1.4 biliwn, mae’r cyngor wedi prosesu 2,204 o geisiadau ac mae wedi dyrannu mwy na £27.3 miliwn i gwmnïau lleol er mwyn eu helpu i wynebu’r heriau parhaus yn sgil cyfyngiadau symud pandemig y coronafeirws.

Hyfforddiant ymwybyddiaeth o COVID-19

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwahodd busnesau manwerthu lleol sy’n ystyried ailagor i gadw lle, yn rhad ac am ddim, ar y cwrs hyfforddiant ymwybyddiaeth o COVID-19 ar-lein. Gall yr hyfforddiant hwn helpu i sicrhau bod y safle wedi’i baratoi’n dda ar gyfer croesawu cwsmeriaid yn ôl.

Bydd y cwrs yn cymryd tua thair awr i’w gwblhau a gellir gwneud hynny gartref gan ddefnyddio offer yr hyfforddai ei hun. Ar ôl i fusnes gwblhau’r hyfforddiant yn llwyddiannus, cyflwynir sticer iddo’i arddangos ar ei safle i sicrhau cwsmeriaid ei fod wedi derbyn hyfforddiant llawn.

Fel rhan ychwanegol o’r pecyn ailddechrau hwn, gall busnesau hefyd wneud cais am gard rhag tisian am ddim er mwyn eu diogelu eu hunain a’u cwsmeriaid ymhellach wrth iddynt ddychwelyd i’r gwaith.

Rhoddir dyddiad, amser a lleoliad gan staff y cyngor i fusnesau er mwyn derbyn y gard rhag tisian o 8 Mehefin 2020.

Bwriedir i berchenogion, rheolwyr a staff allweddol eraill busnesau ymgymryd â’r hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o COVID-19. Er mwyn cadw lle a gwneud cais am gard rhag tisian, ffoniwch Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ar: 01656 643428 neu anfonwch e-bost at: employability@bridgend.gov.uk.

 

<< Yn ôl at Newyddion