Tri busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ennill yng Ngwobrau Goreuon Gwallt a Harddwch Cymru

Dydd Llun 4 Mawrth 2024

Mae tri salon gwallt ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ennill prif wobrau yng Ngwobrau Goreuon Gwallt a Harddwch Cymru.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yng Ngwesty Tŷ Newydd ac yn ystod y seremoni, enillodd Beth Daniel Hair Designs, Dean Morgans Salon a’r Unique Hair Salon brif wobrau.

Enillodd Beth Daniel Hair Designs wobr y Salon Gwallt Gorau, ynghyd â Dean Morgans Salon, a ddaeth yr ail yn yr un gystadleuaeth. Enillodd Dean Morgans Salon wobr Dyn Busnes y Flwyddyn hefyd a chipiodd Unique Hair Salon wobr y Busnes Mwyaf Poblogaidd.

Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr!

Dysgwch fwy a gweld y rhestr lawn o enillwyr.

<< Yn ôl at Newyddion