Arwr rygbi Cymru yn ymuno â busnesau i ddathlu Dydd Gwyl Dewi

Dydd Mawrth 10 Mawrth 2020

Derbyniodd un o chwaraewyr rygbi enwocaf Cymru, Ieuan Evans MBE, groeso cynnes ym mrecwast busnes blynyddol Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi 2020 yn ddiweddar.

Mynychodd dros gant o bobl y digwyddiad yng Ngwesty Coed-y-Mwstwr, Llangrallo, lle rhannodd Ieuan rai o’r enydau mwyaf cofiadwy o’i yrfa rygbi helaeth.

Cafodd mynychwyr y brecwast eu difyrru gan ei hanesion difyr am rai o’r enydau allweddol yn ei yrfa rygbi, gan gynnwys digonedd o straeon am bobl chwaraeon a rhai cymeriadau bythgofiadwy y mae wedi cwrdd â nhw ar hyd y daith. Roedd ei agwedd benderfynol a’i wytnwch wrth wneud penderfyniadau yn rhywbeth y gallai aelodau fforwm gymryd ysbrydoliaeth oddi wrtho, ac roeddent hefyd yn gallu gweld sut oedd hyn yn trosi i’r byd busnes.

Dywedodd Ieuan: “Diolch yn fawr am y gwahoddiad caredig i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda phob un ohonoch. Pleser yw bod yma!

“Efallai bod y tywydd yn llwm, ond mae hi wedi bod yn fywiog yma bore ‘ma. Digon o drafod am wahanol bethau a chwestiynau gwych o’r llawr! Rwy’n credu bod pawb wedi mwynhau!

“Mae digwyddiadau fel y rhain mor bwysig – mae’n gyfle gwych i bobl o’r un anian gyfnewid syniadau busnes a thrafod yr heriau sy’n wynebu busnesau yn yr ardal. Mae’n rhoi cyfle i bobl rannu gwybodaeth a helpu’r naill a’r llall i symud ymlaen. Mae popeth er lles pawb yn gyffredinol.”

A wnaethoch chi fynychu brecwast busnes Dydd Gŵyl Dewi? Cymerwch olwg ar ein lluniau o’r diwrnod ar ein tudalen Facebook.

<< Yn ôl at Newyddion