Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’i bartner gwastraff, Kier, yn chwilio am sefydliad newydd i redeg y siop ailddefnyddio yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Maesteg.
Mae The Siding, a oedd yn cael ei rhedeg gan Wastesavers, wedi cau dros dro ar ôl i’r fenter gymdeithasol gyhoeddi nad yw’n gallu parhau i’w rhedeg.
Dywed bod effaith pandemig y coronafeirws ymhlith ffactorau lliniarol eraill yn golygu na all fod ynghlwm â rhedeg y siop, sy’n gwerthu eitemau diangen y cartref sydd mewn cyflwr da.
Dywedodd Alun Harries, Rheolwr yr Elusen yn Wastesavers: “Roedd hwn yn benderfyniad anodd ond mae effaith Covid-19 ynghyd â nifer o ffactorau eraill yn golygu na fydd Wastesavers yn gallu bod ynghlwm â rhedeg y siop bellach.
“Hoffem ddiolch i gymuned Maesteg am y gefnogaeth a’r brwdfrydedd a ddangoswyd ganddynt tuag at The Siding. Hoffem hefyd ddiolch i’n partneriaid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Kier, am eu cefnogaeth tuag at The Siding, a’u hymrwymiad iddi. Rydym yn hyderus y bydd The Siding yn ail-agor yn y dyfodol a dymunwn bob llwyddiant i’r siop.”
Mae canolfannau ailgylchu cymunedol ar agor rhwng 8.30am hyd at 7pm ddydd Llun i Gwener a 8.30am hyd at 5pm ddydd Sadwrn a Sul.
Mae mesurau diogelwch ar waith a dylid cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol. Mae’n debygol y bydd ciwiau oherwydd cyfyngiadau ar nifer y bobl sy’n cael eu caniatáu ar y safle ar unrhyw un adeg, felly gofynnwn yn garedig i breswylwyr fod yn amyneddgar.
Yn y cyfamser, mae gwaith yn mynd rhagddo yng nghanolfan ailgylchu gymunedol newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn Ystâd Ddiwydiannol Village Farm yn y Pîl.
Bydd gan y ganolfan, y disgwylir iddi agor yn yr haf, fwy o gapasiti cerbydau a lonydd osgoi er mwyn i bobl allu symud yn haws ar y safle. Bydd system lefel ar wahân ar waith yn yr iard gyda rampiau at y sgipiau uwch a chanopi i’w diogelu rhag yr elfennau.
Dilynwch ni