Ysgol Fusnes Rebel yn dychwelyd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Mercher 4 Ionawr 2023

Mae ysgol fusnes sydd wedi ennill gwobrau yn dychwelyd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan ddod â’u cwrs poblogaidd i egin berchnogion busnes ar draws y sir.

Bydd Ysgol Fusnes Rebel, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn darparu eu cwrs poblogaidd yng Nghanolfan Fywyd Halo rhwng 20 – 24 Mawrth 2023.

Bydd y cwrs rhad ac am ddim yn cynorthwyo busnesau newydd lleol ledled y fwrdeistref sirol i gael eu syniadau ar waith a busnesau sy’n bodoli eisoes i dyfu.

Dywedodd llefarydd ar ran Rebel Business School: “Ers 2011, mae ein cyrsiau wedi bod yn dangos ffordd newydd o feddwl a ffyrdd ymarferol o gael eich syniad busnes ar waith heb fynd i ddyled.

“Rydym wedi cynorthwyo dros 17,000 o bobl drwy ein cyrsiau drwy bartneriaethau gyda chymdeithasau tai lleol a chynghorau. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi profi’n barhaus bod cychwyn busnes wedi newid a bod angen ei ddysgu’n wahanol.

“P’un ai ydych ar ddechrau eich taith, yn fusnes sydd eisoes wedi ei sefydlu neu’n adeiladu eich menter ar yr ochr, bydd ein cwrs yn rhoi’r wybodaeth, yr ysbrydoliaeth a’r cyngor ymarferol sydd ei angen arnoch i gael eich syniad ar waith.”

Mae pob diwrnod o’r cwrs yn cael ei gynnal rhwng 10am – 3pm ac yn mynd i’r afael â thestunau megis:

  • Sut i gychwyn busnes yn rhad ac am ddim
  • Gwerthu a marchnata
  • Sut i greu gwefan heb arian
  • Dod o hyd i gwsmeriaid ar gyfryngau cymdeithasol
  • Llywio drwy arferion cyfreithiol

Gellir archebu lle am ddim ar y cwrs ar wefan Ysgol Fusnes Rebel.

<< Yn ôl at Newyddion